HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Glyder Fawr, Y Garn, Foel Goch a’r Llymllwyd 25 Ionawr


Beth ydi tarddiad yr enw Crib Senior’s ysgwn i? Dim esboniad i weld ar y wê nac mewn llyfrau cyfeirio lleol. A oedd yna Mr neu Mrs Senior neu ddaru na griw o bensiynwyr ddringo y grib rhyw dro!

Ta waeth dyma y grib oedd ein nôd cyntaf am y diwrnod. Deg ohonom wedi cyfarfod wrth gaffi Pont y Benglog. Anelu at Lyn Idwal cyn torri ar draws y llechweddau at waelod yr hafn i’r chwith o Rhiwiau Caws. Roedd y graig braidd yn wlyb a llithrig felly rhaid oedd bod yn ofalus wrth sgramblo at geg Cwm Cneifion.

Paned sydyn a chyfle i Gareth a Richard i ddal i fyny hefo’r criw, cyn i ni gychwyn ar y grib go iawn. Mae nifer o bosibiliadau i ddringo’r grib ond heddiw dewiswyd y llwybr hawsaf gan fod yr amodau braidd yn wlyb. Roedd y niwl yn drwchus a fawr o olygfa i’w weld.

Cinio bach o dan gopa Glyder Fawr cyn disgyn yn sydyn i Lyn y Ci. Ymlaen i gopa’r Garn a phaned arall yng nghysgod y garnedd ar y copa. Y niwl wedi clirio a golygfeydd da o’r Carneddau i’w gweld.

Anelu rwan at Foel Goch. Hawdd cael hyd i’r copa dim ond dilyn y ffens rhydlyd di angen. Seibiant i dynnu lluniau cyn dychwelyd i Bont y Benglog ar hyd y Llymllwyd a thrwy dawelwch Cwm Cywion.

Diolch i bawb am eu cwmni ac am y sylwadau cadarnhaol am y daith.

Adroddiad gan Arwel

Lluniau gan Richard ar FLICKR