Moel Sych 1 Awst
Cyrhaeddodd naw ohonom bentref Llangynog i ganfod y maes parcio bron yn llawn. O fod wedi gweld y maes parcio’n eithaf gwag yn y gorffennol, roedd yn dipyn o ddirgelwch pam fod cymaint o geir yno mor gynnar ar fore Sul. Roedd y tywydd yn braf ac aethom ar ein taith ar hyd lôn fach wledig hyd nes ei gadael i ddilyn llwybr ger Nant Sebon sydd mewn cwm prydferth yng nghysgod Craig Rhiwarth gyda golygfeydd o ddyffryn gwastad Tanat i’w gweld o’n holau. Tipyn o ddringo serth wedyn wrth ddilyn Nant Ddial i lethrau’r Clochydd lle’r oedd y cerdded yn haws.
O lethrau’r Clochydd daeth dyffryn arall i’r golwg sef dyffryn Nant Rhaeadr gyda Phistyll Rhaeadr oddi tanom. Er mor agos oeddem at y rhaeadr nid oedd modd ei weld gan ei fod o’r golwg yn y coed ond croeswyd afon Disgynfa sy’n bwydo’r rhaeadr ac yna dechrau dringo llethrau Moel Sych. Wrth ddringo Trum Felen y gwelsom yr unig gerddwyr eraill yn ystod y dydd wrth i rai o’r ymwelwyr i Bistyll Rhaeadr fentro fymrym ymhellach na’r pistyll a’r maes parcio.
Er gwaethaf yr enw cawsom fymryn o law mân ar gopa Moel Sych ond pharhaodd o ddim yn hir ac wedi’r cymylau gilio cawsom olygfa 360° o’n cwmpas o Fryniau Clwyd i Eryri, y Rhinogydd, Aran, Cader Idris ac ambell fryncyn yn Lloegr. Wedi Moel Sych roedd y cerdded i gyd i lawr allt gan golli uchder yn raddol ar hyd y daith. Croesom rostir grugog hyd at y ffordd fawr ac yna i lawr cwm gwyrdd a choediog Rhiwarth cyn dychwelyd i’r maes parcio yn Llangynog. Roedd hwnnw dal yn llawn.
Diolch i Keith, Llinos, Ffion, Siân, Rosie, Erddyn a Dafydd am eich cwmni difyr yn ystod y dydd ac i Ifan am gyd-arwain y daith gyda mi. Yn anffodus cafodd Llinos ddamwain ar y daith gan anafu ei throed. Gobeithio’n wir y caiff adferiad buan ar ôl ei damwain ac y bydd hi’n dod gyda ni ar deithiau’r clwb eto’n fuan. Diolch i Keith a Siân am eich cymorth wrth helpu Llinos wedi’r ddamwain.
O.N. Roedd cryn holi am darddiad enwau Nant Sebon a Nant Ddial yn ystod y daith. Enwau hyfryd ar ddwy nant y buom yn eu dilyn. Oes unrhyw un yn gwybod beth yw ystyr/traddiad yr enwau? Buasem yn falch iawn o glywed am unrhyw eglurhad.
Adroddiad gan Gareth Huws.
Llun gan Gareth, Keith ac Erddyn ar FLICKR