HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Bryniau Clwyd 3 Gorffennaf


Daeth naw o gerddwyr ynghyd yn Llanbedr Dyffryn Clwyd i gerdded copaon Moel y Gaer, Moel Famau, Moel Dywyll a Moel Arthur.

Aethon ni heibio Fferm Teiran a cherdded trwy’r caeau at odrau Moel y Gaer. Mae dringfa serth o dros 500 troedfedd i gyrraedd y copa; llecyn hyfryd sy’n cael ei anwybyddu gan y miloedd sy’n heidio i gopa Moel Famau.

Trwy’r grug â ni ac ymuno cyn hir â’r prif lwybr sy’n arwain o Fwlch Pen Barras i gopa Moel Famau. Oedi yno i gael hoe a chinio.  Erbyn hyn, roeddem ar lwybr Clawdd Offa a dilyn hwnnw fu’n hanes heibio copa Moel Dywyll gan fwynhau golygfeydd gwych o Ddyffryn Clwyd a thu hwnt cyn disgyn yn serth i’r maes parcio a leolir yn gyfleus wrth droed Moel Arthur. Aeth y rhai pwyllog i gopa hwnnw ar hyd y llwybr arferol tra mentrodd eraill i fyny’r llwybr serth sy’n cychwyn yn unionsyth o’r maes parcio.

I lawr â ni wedyn i gyfeiriad Fferm Siglen Uchaf cyn troi am y llwybr sy’n cyd-redeg â llawr toreithiog Dyffryn Clwyd ac yn ôl at y ceir.

Taith o tua 11 milltir gydag esgyniad o tua 2500 o droedfeddi. Diolch i John Arthur, Gwyn ac Eifion o Lanrwst, Gethin, Andras a Nia o’r Fam Ynys, Ffion o Lannefydd, Iolyn ac Eirlys o’r Rhinogydd.

Adroddiad gan Sw Roberts.

Llun gan Sw ar FLICKR