Cronfeydd Lliw a Mynydd y Gwair 4 Medi
Mae tywydd braf yn gwneud gwahaniaeth i unrhyw daith, ac roedd hynny’n sicr yn wir am hon, nad oedd yn un uchelgeisiol o ran ei phellter (ychydig dros 10 milltir) na’i hawydd i gyrraedd copaon. Daeth 9 ohonom ynghyd yn yr heulwen wrth Gronfeydd Lliw, ger Felindre, sef Alison, David, Digby, Eileen, Elin, Eurig, Helen, Meirion a Rhun. Roedd hi’n braf gweld Eileen eto a chroesawu David atom. Mae Cronfeydd Lliw yng nghymuned Mawr, sef y parsel mwyaf o dir yn hen blwyf Llangyfelach, yn yr ardal a elwid gynt yn Gŵyr Uwch Coed (Gŵyr Is Coed yw Penrhyn Gŵyr heddiw). Codwyd yr argae cyntaf yma yn 1863 a’i ailadeiladu wedyn ddiwedd y 1970au. Erbyn hyn mae’n gyrchfan poblogaidd i gerddwyr ac i’r rhai sy’n dymuno rhoi cynnig ar chwaraeon dŵr.
Yn gyntaf, dilynwyd Llwybr Gŵyr a cherdded ar hyd y lan ddwyreiniol lle gwelir cerfluniau pren o amryw o greaduriaid cyffredin yn yr ardal. Ymlaen wedyn ar hyd y ffordd darmac gul at y Gronfa Uchaf a agorwyd ddiwedd y 19eg ganrif, trwy goedwig Brynllefrith a pharhau, yn gyntaf ar yr heol rhwng Craig Cefn Parc a Betws ac yna dros y tir i gyrraedd Penlle’r Castell.
Penlle’r Castell yw’r man uchaf yn Ninas a Sir Abertawe (370 m uwch lefel y môr), ac mae’r olygfa’n wirioneddol wych i bob cyfeiriad – gellir gweld y rhan fwyaf o gopaon de Cymru a Môr Hafren oddi yma ar ddiwrnod clir. Felly roedd yn lle delfrydol i arglwyddi Normanaidd Gŵyr codi castell, ac i ni gael cinio. Un pren oedd y castell gwreiddiol; fe’i llosgwyd gan y Cymry yn 1252, a’i ailgodi wedyn yn gastell carreg. Erbyn hyn, mae’r adfeilion cerrig fwy neu lai wedi diflannu o dan orchudd o laswellt ond mae’r mwnt a thwmpathau eraill i’w gweld yn eglur.
Croesi Mynydd y Gwair oedd yr her nesaf; ar hyd Llwybr Illtud, ac yna ar draws y mynydd i gyfeiriad un o ffyrdd y melinau gwynt. Roeddem yn ffodus iddi fod mor sych yn ddiweddar – mae afonydd Dulais a Lliw yn tarddu yma, wedi’r cyfan. Mae 16 o felinau gwynt ar y mynydd, yn cynhyrchu trydan i ryw 22,000 o gartrefi ers 2019, er bod y llafnau’n gwbl lonydd wrth inni gerdded i lawr i godi’r llwybr uwchben y Gronfa Uchaf ac yna’n ôl i’r maes parcio.
Adroddiad gan Elin
Lluniau gan Eurig, Alison a Meirion ar FLICKR