HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Aran Fawddwy 4 Medi


Daeth pymtheg ynghyd ar fore braf o Fedi i fentro llwybr Bydyre, neu'n hytrach sgramblo fyny Ro Fawr a grug Cwm Bydyre.

Syndod oedd gweld y tyfiant wedi gorchuddio'r llwybr ers yr ailwylltio a fu gan berchnogion estron. Bu dyfalu hir am esboniad am  enw a safle Efail Bydyre, mae’n le arbennig iawn.

Wedi chwysu yn dringo drwy'r grug (a rhegi'r arweinydd) bu cyfle i gael paned yn edrych lawr ar ogoniant Cwm Cywarch. Roedd y cerdded yn haws o hyn ymlaen i gopa Glascwm, cyn disgyn yn serth i Fwlch Cosyn a Lloc y Llwynog am ginio. Cawsom brynhawn hamddenol yn cerdded i ben Aran Fawddwy, ac yn ôl dros y Drws Bach i flaen llwybr yr Hengwm.

Aeth y pedwar mwyaf heini yn eu blaenau dros Pen yr Allt Uchaf a chyrraedd  y maes parcio yr un pryd â ni.

Adroddiad gan Tegwyn Jones.

Lluniau gan Richard ac eraill ar FLICKR