HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Grib Crughywel 4 Rhagfyr


Dyma ddeg ohonom yn cyrrardd maes parcio bach ym mhentref Pengenffordd tua 15 munud i’r Gogledd Orllewin o Grughywel.

Gan ddilyn llwybr bach caregog tua’r De dyma gyrraedd lôn fach cyn dechrau codi rhiw Trumau i bwynt 617 m ble mae ambell lwybr yn croesi ei gilydd. Roedd hi’n dipyn o her i fedru cael cysgod i gael paned gan fod y gwynt yn dechrau cynyddu o ran cryfder. Roedd medru eistedd yn nghysgod copa Pen y Trumau (707 m) yn fendith.

Ymlaen a ni dros tir agored nes cyrraedd copa Waun Fach (811 m), y trydydd uchaf ar y Bannau yn dilyn Pen y Fan a Chorn Du.

Ymlaen tuag at Pen Manllwyn cyn troi i’r Gorllewin a gorfod brwydro yn erbyn gwynt nerthol o’r Gogledd orllewin. Ar brydiau roedd y gwynt yn codi i thua 35 milltir yr awr ac yn gwneud cerdded yn anodd. Gyda cawodydd o eirlaw yn gymysg annifyr oedd hi i werthfawrogi'r golygfedd.

Ymhen tipyn dyma gyrraedd dechrau y crib, sef yr enwog Cefn y Ddraig (gan fod y copaon bach yn adlewyrchu cefn draig chwedlonol).

Cawsom ginio mewn lle bach cysgodol cyn teithio lawr dros y grib nes cyrraedd Castell Dinas, sef bryn gaer gyda chastell Normanaidd are ei ben. Dyma'r castell uchaf yn Nghymru a Lloegr (450 m), wedi ei leoli yn strategol rhwng Talgarth a Chrughywel. Mae tipyn o hanes iddo (gweler Google) gan ei fod wedi ei gipio gan Llywelyn Fawr, Llywelyn ap Gruffydd a’i ddinistrio gan Owain Glyndwr.

Ymlaen a ni wedyn lawr y cwm nes cyrraedd y maes parcio unwaith yn rhagor. Ble gwell i orffen y dydd na Gwesty’r Ddraig i gael cinio Nadolig mewn cwmni hwyliog a chroesawgar.

Adroddiad gan Dewi

Lluniau gan Alison a Dewi ar FLICKR