HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Talyfan 6 Mehefin


Ar fore hyfryd o haf cyfarfu wyth ohonom – Rhiannon, Nia, Liz, Gwen, Haf, Ffion (ar ei thaith gyntaf), Aneurin a Dilys – ym mhentref Rowen. Ein nod am y diwrnod oedd copa Tal y Fan, mynydd mwyaf gogleddol Cymru. Roeddem am ddilyn trywydd yn groes i’r un yng Nghopaon Cymru felly dyma gychwyn cerdded trwy’r pentref, gan oedi wrth y gofeb i Huw T Edwards. Ganed Huw Tom ar lethrau Tal y Fan ac yn ystod ei oes bu’n ddylanwadol iawn ym mywyd cyhoeddus Cymru. Ar ôl gadael y pentref cymerwyd llwybr troed dros y caeau a chodi’n raddol at y ffordd sy’n arwain o Lanbedr y Cennin i Fwlch y Ddeufaen, gyda’r golygfeydd o aber Afon Conwy yn dod yn amlwg oddi tanom. Wedi cadw at y ffordd am ychydig cawsom droi oddi arni a dringo’r llethrau at grib orllewinol y mynydd ac yna, o’r diwedd, y copa a’i biler triongli. Oddi yma cawsom olygfeydd 360 gradd bendigedig cyn belled â Chilgwri, Bryniau Clwyd, Arenig Fawr, y Carneddau i gyd, Ynys Môn a’r fferm wynt anferth oddi ar yr arfordir. Diddorol oedd sylwi fod y llysdyfiant wedi diflannu oddi ar rannau helaeth o Ynys Seiriol, gan roi amlinelliad tebyg i long bleser enfawr iddi.

O’r copa aethom yn ein blaenau ar hyd crib Tal y Fan tua’r dwyrain ac yna disgyn i lawr at hen chwarel lechi. Wrth ymlwybro trwy’r chwarel cawsom y pleser o weld mwyalchen y mynydd, un o sawl gwahanol aderyn y bu i ni ei weld neu glywed yn ystod y dydd. Braf iawn hefyd oedd gweld merlod y Carneddau yn pori yn eu cynefin, nifer ohonynt hefo ebolion ifanc. Mae’r merlod gwyllt yma yn byw ar lethrau’r mynydd ers canrifoedd ac yn unigryw i’r ardal. Lle mae’r llethr yn gwastatau ychydig roeddem yn ymuno â lôn drol sy’n mynd heibio hen eglwys Llangelynnin. ‘Roedd yr eglwys ei hun yn dal ar gau oherwydd Cofid ond buom yn ymweld â’r ffynnon sgwâr yng nghornel y fynwent. Credid mai rhinwedd arbennig y ffynnon hon oedd ei bod yn iachusol i blant a byddai rhieni yn eu cludo yno i ymdrochi er mwyn eu gwella o’u anhwylderau. Aeth ein taith â ni wedyn trwy goedlan braf Parc Mawr, sydd dan ofal Coed Cadw, ac yna dros gamfa serth 13 gris ac ar hyd llwybrau troed yn ôl i’r pentref a’r man cychwyn, gan gwblhau cylchdaith hamddenol o 8 milltir.

Adroddiad gan Dilys.

Lluniau gan Aneurin ar FLICKR