HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Y Carneddau 7 Tachwedd


Roedd yn bleser codi fore Sul a gweld awyr las ar ôl dros wythnos o dywydd glawiog ac eira cyntaf ar y Carneddau. Cychwynodd 12 ohonom o faes parcio ar waelod hen chwarel Pantdreiniog ym Methesda a chyfarfod tri arall ar y ffordd cyn cychwyn am gopa cyntaf y diwrnod, Moel Faban.

Roedd y grŵp yn cynnwys Alice, Elen, Dwynwen, Raymond, Gwyn, Manon, Iolo, Sian, Keith, Carwyn, Sioned, Owain, Matthew, Chris a Hilary.

Er ei bod yn wlyb dan draed roeddem yn ffodus i osgoi unrhyw gawodydd er bod y rhagolygon yn gaddo hyny. Ar gyrraedd copa Bera Mawr roedd pawb yn barod am baned a chyfle i fwynhau golygfa llai cyfarwydd  gan bod hwn yn gopa sydd allan o'r ffordd ac yn le i'r enaid gael llonydd.

Ar ddiwrnod fel hwn mae'r Carneddau ar eu gorau gyda golygfeydd clir drosodd am Llandudno a Ynys Mon. Cafom gyfle i fwynhau ychydyg o sgrialu at gopa Bera Mawr cyn croesi tir di lwybr am Llwytmor a phaned arall. Roedd rhaid gadael y golygfeydd ar ôl am beth amser a cherdded drwy niwl  a gwyntoedd cryf dros Foel Fras a Garnedd Gwenllian, sef dau gopa uchaf y dydd.

Y criw yn gwneud amser da o Garnedd Gwenllian dros y tri copa olaf, allan o'r niwl ac yn mwynhau gwylio'r haul yn machlud o gopa Gyrn Wigau. Braf oedd  peint haeddiannol i amryw ohonom yn y Sior ar ddiwedd diwrnod pleserus iawn.

Adroddiad gan Stephen Williams

Lluniau gan Steve a Sioned ar FLICKR