HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Glyn Eglwyseg a Moelydd Llantysilio 9 Hydref


Cyn gadael maes parcio’r ‘Sun Inn’ yn y Rhewl, glyn Dyfrdwy, cyflwynwyd ‘arferiad dechrau taith’ newydd a gwâr i’r Clwb (llun 1). “M-app mewnol i’n cadw ar y llwybr cul” oedd un eglurhad amheus. Mae’n bosib ei lif-lwytho mewn fawr o dro!

Ta waeth, gadawyd y criw saethu i’w hannel niwlog yn go sydyn! Roedd yn fore braf wrth i’r 12 ohonom anelu drwy Landynan am Gefn Hyrddyn, â’i olygfa drawiadol o Abaty Glyn y Groes (neu Glyn Egwestl), Castell Dinas Brân a thref Llangollen. Ar ôl croesi Afon Eglwyseg, dilynwyd troed y clogwyni calchfaen enwog am y gogledd, ar hyd llwybr Clwyd, gan ryfeddu at y coedydd hynafol iach o’n cwmpas (llun 2). Codi wedyn o Blas yn Eglwyseg, a’i ffermdy Tuduraidd, hyd ysgwydd y Gribin, a dod allan ar y mynydd nepell o’r mast telathrebu i’r gogledd o Fwlch yr Oernant. Roedd yr olygfa o’r man cinio i lawr y cwm am Bentredŵr yn arbennig.

Ar ôl osgoi’r motobeics hy wrth y Ponderosa, dringwyd i fyny ac i lawr ‘y chwiorydd’, sef Moel y Faen, Moel y Gamelin, Moel y Gaer a Moel Morfydd (llun 3), cyn troi i lawr heibio Cymmo a’r Acer Ddu yn ôl i’r ‘Sun Inn’. Roedd Gwyn, John Arthur a Tegwen wedi ffarwelio â ni ym mwlch Bryneglwys, pan ddaeth y mymryn lleiaf o law mân i’n hwynebau am rhyw ddeg munud (Gwyn â rhyw esgus am ben-blwydd)!

Ceryddwyd yr arweinydd ar ddiwedd y daith oherwydd bod y dringo’n 200 m yn fwy, a’r cerdded dros 2 filltir yn hwy, na’r disgrifiad yn y Rhaglen.

Roedd yn braf cael cwmni Joan Daley, o’r Wuddgrug, a Stephen Williams o Lanrhaeadr yng Nghinmeirch am y tro cyntaf, i gadw trefn ar Iolyn, Eirlys, Gaenor, Buddug, Hywel Watkin, Tegwen, Gwyn, John Arthur, Siân Shakespeare, a finne.

Adroddiad gan Rhys Dafis

Lluniau gan Rhys ar FLICKR