Cwm Nedd 10 Gorffennaf
Anodd oedd cyfarfod wythnos ar ôl colled mawr Gareth. Fe oedd trefnydd cyntaf y clwb yn y de a hefyd pan ymunais yng nghanol yr wythdegau. Rhoddwyd teyrngd iddo ar ddechrau daith gan John Rowlands, un o aelodau cyntaf y clwb yn y de. Darllenais ychydig o eiriau o deyrnged gan Sian Shakespeare a fu’n cerdded gyda ni tra’n byw yn Aberhonddu. Darllennodd Meirion englyn er côf iddo ac yn cafwyd munud o dawelwch cyn dechrau’r daith.
Er Cof am Gareth Pierce
Yn ei waed dringwr ydoedd a garai
ymgyrraedd y Gwerthoedd,
un ym mri ei Gymru oedd,
yn eiddo i’w mynyddoedd.
Meirion
Y man cyfarfod oedd maes parcio ger afon a chamlas Nedd wrth ymyl cylchdro Resolven yng Nghwm Nedd. Lle cyfleus iawn gan fod y pethau pwysig yno – tai bach glân, caffi a parcio am ddim.
Dechreuwyd y daith trwy ddilyn llwybr i lawr yr afon Nedd am chwarter awr ac yna ei chroesi i gyrraedd pentref Melin Cwrt. Yna, dilyn y nant o’r pentref i gyrraedd sgwd Melin Cwrt, sy’n 80 troedfedd o uchder. Mae’r sgwd a’r warchodfa natur yn 13 erw ac yn cael ei warchod gan Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru. Mae’n ardal sydd wedi denu ymwelwyr ers dwy ganrif ac yn ôl pob sôn wedi cael dylanwad ar yr arlunydd J M W Turner.
Wrth ddringo allan o’r cwm cul, galwyd heibio i gapel Melin Cwrt a adeiladwyd yn 1799. Yna, ymuno am ychydig â llwybr Sant Illtud. Mae’r llwybr ei hun, sy’n 60 milltir o hyd, yn dechrau ym Mhembre ac yn gorffen ym Margam. Dyma ni’n gadael y llwybr wedi ychydig a gweithio ein ffordd i lawr i bentref Clyne, neu efallai Clun gan fod gan yr afon siap fel clun.
Yna, ymlaen i gyrraedd camlas Nedd a’i dilyn hi am ychydig ac yna croesi gyda’r gamlas nôl dros yr afon Nedd. Agorwyd y gamlas ym 1795 o Glyn Nedd i Melincryddan, sydd i’r de o Gastell Nedd.
Dechrau dringo unwaith eto i fyny Craig Ynysbwyllog wrth ymyl sgwd fechan ac na trwy coedwig naturiol preifat lle mae yna lwybr cyhoeddus. Dyma ni’n cwrdd â’r perchennog a oedd yn gyfeillgar ac yn falch o weld pobl yn gwneud defnydd ohono. Heibio i Graig Ynyscollen tan cyrraedd awyr agored. Dringo eto heibio i Graig Llety-rafel i gyrraedd heol Rufeinig. Mae’r heol hon hefyd yn cael ei galw’n Sarn Helen ond yn wahanol i’r un sydd o Gaerfyrddin i Aberconwy. Mae’n arwain o Gastell Nedd(Nidium)i Banwen ac yna trwy’r parc cenedlaethol tuag at Ystradfellte, heibio i Fan Frynych ac yna ar draws Mynydd Illtud i Y Gaer(Cicucium) wrth ymyl Aberhonddu.
Dilynwyd Sarn Helen tan gyrraedd y cyffordd a oedd yn ail-ymuno a llwybr Sant Illtud o’r gorllewin o gyfeiriad Creunant. Ffeindio ein ffordd wedyn i lawr trwy’r goedwig i gyrraedd yr hewl fawr a nôl i’r maes parcio a paned o dê.
Taith o 10.3 milltir. Ar y daith: Dewi, John, Rhian, Pence, Alison, Elin, Meirion, Eurig, Helen a Digby, Rhun.
Adroddiad gan Rhun Jones
Lluniau gan Dewi ar FLICKR