Crib Llawllech 11 Gorffennaf
Pump arall ddaeth yn gwmni i mi ar y daith yma
Iolo, Erddyn, Robat, Rosie (aelod / darpar aelod newydd), John Parry a fi Iolyn.
Y cynllun oedd dilyn hen lwybrau sydd yn arwain o Ardudwy i’r byd mawr neu fel y dywedodd Erddyn (sydd yn enedigol o’r ardal) yn arwain o’r byd i Ardudwy. Er bod yr hen ffordd yn mynd heibio Tyddyn Llidiart (SH 599 254) er mwyn creu ychydig o amrywiaeth cychwynnwyd drwy ddilyn hen ffordd oedd yn arwain o Gwm Nantcol i Lanbedr cyn adeiladu pont dros yr afon. Ymuno gyda llwybr Taith Ardudwy ar hyd troed Moelfre i ddod at y ffordd am bont Ysgethin yn SH 612 243. I’r rhai sydd heb ei gweld o’r blaen mae’n dipyn o syndod gweld pont fwa yma gyda dim ond llwybr caregog yn arwain ati. Mae’n dangos fod y ffordd dros y mynydd wedi bod o bwys ar un adeg. Y defnydd dyddiau yma yw beiciau modur traws gwlad sydd yn creu erydiad ar y llwybr. Ymlaen wedyn dros y grib ac i lawr am y Bontddu. Cyfarfod yr hen ffordd porthmyn sydd yn dod drwy fwlch y Rhiwgyr a chychwyn yn ôl am y grib. Yma mae carreg gydag ysgrif yn rhoi milltiroedd i Harlech a Talybont. Ar ochor y ffordd yn arwain at y bwlch mae Rhos y Caerau (SH 643 230) a oedd yn fan aros i’r porthmyn. Dros y bwlch ac i lawr am fan ymgynnull y gwartheg i greu gyr, Llety Lloegr. Mae’r llociau i’w gweld heddiw. Mae’n bosib dilyn hen ffordd heibio llyn Irddyn (neu efallai mai Erddyn ddylai’r enw fod) at bont Ysgethin ond gan fod y cymylau a’r glaw yn dechrau cronni penderfynwyd dilyn y ffordd dros bont Fadog i Gors y Gedol ac yna i fyny’r ffordd i ail ymuno a’r llwybr cychwynnol (SH 623 238) ac yn ôl i Dyddyn Llidiart. Eirlys wedi paratoi paned a chacen i ni gael ymlacio a sgwrsio ar ddiwedd y daith .
Ymddiheuriadau na dim ond un llun o’r teithwyr, os gaf gyfle ychwanegaf rai eto.
Adroddiad gan Iolyn
Pont Fadog
Mae dyddiad 1762 ac enwau’r sgweiar W V (William Vaughn) a’r saer H E ar hon. William Vaughn o Gors y Gedol oedd yr aelod seneddol lleol. Dyn a oedd mor dew ‘r oedd rhaid agor drws yn arbennig iddo fynd o un lle i’r llall yn y senedd. I fynychu’r senedd byddai gweision yn ei gario mewn cadair dros y mynydd at y goets fawr yn Nolgellau. Bu farw wrth gael llawdriniaeth i gael gwared a bloneg.
Llun gan Iolyn ar FLICKR