Crib Llechog 11 Medi

        
  Cyfarfu 9  ohonom yn y Cae parcio i’r de o’r maes parcio swyddogol yn Nant Peris, sef Iolo,  Trystan, Gethin, Dafydd L, Sioned, Dwynwen, Ffion, Eryl a finnau.
  
Cychwyn cerdded  ar hyd ochr y ffordd i gyfeiriad Gwastadnant a chroesi’r afon i gyfeiriad Cwm  Hetiau a Llechog. Er fod rhagolygon y tywydd yn ffafriol am y diwrnod, dechreuodd fwrw  wrth inni gychwyn dringo y llethr serth i gyrraedd y bwtres a’r
sgrialu go  iawn,a dyna oedd y patrwm am weddill y dydd.
Cafwyd diod sydyn mewn man ffafriol cyn  cychwyn i fyny hafn o laswellt a chreigiau, nes cyrraedd blociau  mawr o greigiau a’r darn anoddaf o’r sgrialu. Digon rhwydd  oedd gweddil y grib, heb fawr ddim o sgrialu agored a chyrraedd y copa i ganol y niwl,  a swn y trên rhywle odditanom. Pan wnaethpwyd y daith hon yn Hydref 2015, roedd yn  llawer haws ar ddiwrnod braf a’r graig yn sych. Er hynny fe lwyddodd pawb i gyrraedd y  copa yn ddi drafferth.
 
 Cymerwyd cyfle i gael cinio ar y copa yng  nghanol y niwl cyn cychwyn i gyfeiriad Gorsaf Clogwyn ac  ymuno â dwsinau o gerddwyr oedd newydd gyrraedd ar y trên. Cerdded ar  llwybr am ychydig nes gadael y niferoedd o gerddwyr ac anelu i gyfeiriad Gyrn Las a chopa  Garnedd Ugain. Tynnu llun yn sydyn yno a cychwyn ar hyd y grib i Gyfeiriad Bwlch  Coch, gyda amryw o gerddwyr yn dod in cŵr. Cyrraedd Bwlch Coch ac oherwydd yr  amgylchiadau penderfynu mynd lawr o’r bwlch i Gwm Uchaf a heibio Llyn Glas lle  welsom babell ar ganol yr ynys.
 
 Cerdded oddi yno lawr yn serth i Gwm Glas  Mawr ac i’r ffordd wrth Blaen Nant yn ôl i’r Cae Parcio a  mwynhau diod haeddiannol yn y dafarn leol. Diolch i bawb er gwaetha’r tywydd am  eu cwmni hwyliog ar ddiwrnod da o fynydda.
 
Adroddiad gan Gareth  Wyn
      
  Lluniau gan Gerallt Pennant ar FLICKR
