Taith Cwmbrwynog 12 Mai
Cyrhaeddodd y deuddeg yn saff i`r Ganolfan yn Llanberis erbyn 10 o`r gloch. Roedd y tywydd yn anffafriol iawn glaw dibaid.
Trwy lwc roedd Ken Jones yr arweinydd wedi paratoi ar ein cyfer dan do yn y Ganolfan. Cawsom nifer o sleidiau ganddo am Gwmbrwynog. Mae gwybodaeth Ken am Llanberis yn rhyfeddol. Hefyd mae Ken yn enwog fel sylfaenydd ras yr Wyddfa, Marathon Eryri hefo John Disley a Chris Brasher. Sylfaenydd hefyd Rhedwyr Eryri( Eryri Harriers). Mae ei waith diflino dros Cymdeithas Arennau Ysbyty Gwynedd yn destun edmygedd. Heb sôn am ei waith hefo Eglwys Julitte yn Capel Curig. Cafodd y fraint o gyflwyno y Gymraeg yn angladd John Disley. Hefyd mae ei waith yn y Ganolfan yn Llanberis yn ddiflino.
Yn y Ganolfan cawsom hanes T. Rowland Hughes a`r Parch. W. Bryn Williams y ddau hefo cysylltiadau hefo Llanberis a Chwmbrwynog.Erbyn i ni ddod allan o`r Ganolfan roedd y tywydd wedi clirio a ffwrdd a ni am Gastell Dolbadarn gan alw heibio y safle lle gobeithir rhoi cofeb i`r Chwaelwyr, Gorsedd tren yr Wyddfa lle gwelwyd safle Eglwys gyntaf Llanberis. Yna i lawr i weld cofeb Wilbert Lloyd Roberts cyn mynd i`r Ceunant Mawr i weld y rhaedr yna i fyny i Cwmbrwynog( cael cinio ar blatform halt y Ceunant Mawr, gan alw heibio Capel Hebron ac ymlaen at ben draw y cwm cyn troi yn ôl at waelodion Cwm Masgwrn cyn cyrraedd yn ôl heibio Capel Coch i Llanberis cyn cael paned a chacen yn yr awyr agored yn caffi ger y Dolbadarn. Dwy neu dair o gawodydd ysgafn a gafwyd ar y daith dim byd i boeni amdano.
Dydy hyn o eiriau ddim yn cyfleu gwybodaeth eang Ken am ei ardal a`r farn gyffredinol oedd y dylai ystyried cyhoeddi llyfr am Llanberis.
Cafwyd cwmni Iona, Pandy Tudur, Mags a Winnie o Ynys Mon, Nia Wyn, Seion, Gwyn Chwilog, Arwyn Cricieth, Anet, Rhiannon Humphreys Jones a Rhiannon James, Caernarfon, Ken a`r ddau Alun Roberts o Gaernarfon sy`n byw yn yr un stryd yn dref. Yr Alun Robers arall ddim yn aelod ond wedi mwynhau yn ein cwmni.
Gyda llaw mae gen i le i chwech ar yr un un daith Mehefin 16 felly cyntaf i`r felin.
Adroddiad gan Alun Roberts
Lluniau gan Arwyn a Gwyn ar FLICKR