HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Taith y Turcan 12 Mehefin


Mwynhaodd y criw daith gerdded ar ymylon gorllewinol Bannau Brycheiniog ar ddiwrnod hyfryd, cynnes a heulog ym mis Mehefin. Braf oedd gallu dal lan gyda ffrindiau eto ac o’r diwedd, dechrau gobeithio bod y misoedd annaearol dan gysgod Covid y tu ôl inni.

Cyfarfu deg ohonom ni “Dros Y Mynydd Du o Frynaman” yn y maes parcio bach uwchben Gwynfe (Bruce, Dewi, Elin, Eurig, Gareth, Pens, Pwt, Rhun, Siân ac Alison). Tristwch i bawb oedd clywed gan Siân mai hon fyddai ei thaith olaf gyda ni yn y De.

Dechreuodd y llwybr gan fynd trwy’r hen chwareli calchfaen a ddisgrifiwyd yn dda gan George Borrow yn 1854 ar ei daith drwy Gymru. Dilynom y ffordd Rufeinig, fel y’i gelwir. Ond nid ffordd Rufeinig mo hon, na Neolithig chwaith; roedd yn arfer cael ei defnyddio er mwyn cludo calchfaen dros y mynydd i Frynaman.

Ar ôl dargyfeiriad byr lan Carn Pen-y-Clogau, gadawon ni’r ffordd Rufeinig a mynd ar draws gwlad, gan ddilyn llwybrau aneglur i gyrraedd y carneddau amlwg i’r gorllewin, sef Tair Carn Uchaf a Tair Carn Isaf (a elwir yn lleol yn “y Turcan”). Mae’r rhain, fel y garn lai, Pen-y-Clogau, yn safleoedd claddu o’r Oes Efydd, (2500–800 CC) lle roedd gweddillion wedi’u hamlosgi yn arfer cael eu gorchuddio â cherrig yn union o dan y gorwelion, er mwyn i bawb allu eu gweld o bellter.

O’r fan hon roedd golygfeydd gwych – pen gorllewinol maes glo De Cymru i’r de; Gogledd Penrhyn Gŵyr; Dyffryn Aman ac ysblander gwledig sir Gâr i’r gogledd; cyferbyniad yn wir!

Yna disgynnon ni ar draws gwlad (doedd dim llwybrau troed, dros dir garw ac anodd – i gyrraedd y dyffryn sych (ar y cyfan) – cwm Gwythwch. Gwnaethom ni ein ffordd ni yn ôl ar hyd crib Carreg Las, Banc Wern Wgan a Phentir Blaen Cennen a chwareli hynafol Pâl y Cwrt.

Dros yr ardal gyfan mae olion cylchoedd, cytiau a ffermydd o’r Oes Efydd, yn ogystal â dwsinau o lync-dyllau bach amawr.
Mae'n debyg bod ogof fawr danddaearol heb ei darganfod eto a fydd yn cysylltu ag ogof hysbys, sef Llygad Llwchwr. Mae afon Llwchwr yn tarddu tua 3km i’r gorllewin o’r Turcan ac mae’n olygfa braf pan fydd llifeiriant o ddŵr, a’r dŵr hwnnw’n dod yno o nifer o lync-dyllau hyd at 6km i’r gorllewin.

Daethom o hyd i un o’r llync-dyllau mwy – Pwll Cwm Sych – hwn sy’n cymryd y rhan fwyaf o’r dŵr sy’n draenio i ogof Llygad Llwchwr. Mae llync-dwll hwn wedi ei gloddio i lawr sawl metr, ond dydyn nhw ddim wedi torri trwodd i unrhyw ogof newydd eto.

Roedd ein llwybr yn ôl i’r maes parcio yn dilyn Ffordd y Bannau, llwybr troed hir arall sydd tua 99 milltir o hyd – o Gastell Carreg Cennen i Gastell y Fenni – ond heb ei arwyddo’n dda!

Er nad yw’r Bannau ymylol cyn uched a mor mawreddog â’r Bannau mwy adnabyddus, maen nhw’n wyllt, yn anghysbell ac yn brydferth dros ben, gyda llai o bobl yn eu troedio. Serch hynny, os ydyn nhw o dan glogyn o niwl (sy’n digwydd yn aml), mae dod o hyd i’r ffordd yn mynd yn anodd dros ben.

I gloi diwrnod perffaith, mwynhaon ni beint yng ngardd y Derlwyn Arms ym Mrynaman.

Adroddiad gan Alison

Lluniau gan Alison ar FLICKR