HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Ardal Capel Garmon 13 Hydref


Gan mai hon oedd y daith gyntaf i mi ei harwain ar ôl 30 mlynedd o seibiant, meddyliais y byddai’n syniad cyfyngu maint y ‘dosbarth’ er mwyn sicrhau y byddai siawns o gadw rhywfaint o drefn a rheolaeth arnynt! Cychwynnodd 18 ohonom ar y daith, sef Jane, Haf, Dewi H.  Mags, Wini, Nia Canu, Buddug PB, Morfudd, Cleif, Rhiannon, Anet, Gwyn, Ellis, Rhys, Gareth T, Gwyn Chwilog, John P, a minnau.

Ar ôl bownsio dros Y Bont Soldiwrs, aethom ymlaen i ymuno â’r A470, a cherdded ar hyd y llwybr ger y ffordd am gyfnod byr, cyn dianc i fewn i’r coed. Roeddwn i’n poeni braidd y byddai twrw’r lorïau enfawr oedd yn taranu ar hyd y ffordd yn peri tipyn o sioc i’r clustiau ond yn fuan iawn, sylweddolais y byddai sŵn mintai siaradus CMC yn gallu boddi unrhyw sŵn!

Ymlaen yn hamddenol drwy Goed Bronrhedyn ac am Zip World Fforest, ac ambell un wedi dechrau pwdu am nad oedd trefniadau wedi eu gwneud iddynt wneud campau ar y rhaffau uchel: y tro nesaf, falle? 

Wrth newid cyfeiriad drwy Goed Hafod, diflannodd sŵn y traffig, ac roedd mwy o gyfle i glywed cân yr adar, a thrydar Yr Aelodau. Heibio Tŷ Mywion, ac yna dringo’n raddol i gyfeiriad Capel Garmon drwy’r goedwig, a dod allan ar dir agored i fwynhau golygfa o Ddyffryn Conwy.

Heibio Gallt y Rhug, a thros ambell gamfa a thrwy sawl giât (gyda diolch arbennig i Ellis am rannu ei sgiliau dathod cortyn bêls) ac ymlaen i gopa ( ie, ‘Copa!’) Mynydd Garthmyn, am baned, cinio, tê, neu swper, a golygfa 360°. 

Ymlwybro ymlaen drwy Gapel Garmon, ac ymlaen am ail baned wrth y Siambr Gladdu, ac yna drosodd am Greanllyn i fwynhau mwy o olygfeydd, cyn anelu am Gefn Rhydd (lleoliad Rêfs mwyaf y byd roc yng Nghymru yn y 70au), a heibio Tŷ’n Bwlch, cyn ymuno â ffordd serth Capel Garmon, oedd yn mynd a ni yn ôl i’r briffordd. Bowns fach arall ar y Bont Soldiwrs, cyn paned a thynnu’n ’sgidie.

Diolch i bawb am eu cwmni diddan, ac yn arbennig i Haf M, am ei chyngor a’i chefnogaeth.

Adroddiad gan Anne Lloyd Cooper

Lluniau gan Anne ag Anet ar FLICKR