HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Carreg Las 13 Tachwedd


Anelu at gyfarfod mewn llecyn wrth ochr y ffordd dros y Mynydd Du o Frynaman i Langadog.

Er gwaethaf y glaw mân a’r niwl hyfryd oedd gweld cynifer wedi ymgynnull yn y maes parcio. Deunaw i gyd gan gynnwys pedwar aelod oedd yn ymuno am y tro cyntaf ers tro.

Dechreuom ar ein taith gan grwydro trwy hen chwarel carreg galch Herbert (gweler mwy o wybodaeth ar safle we dyfedarcheology.org.uk). Gan anelu tuag at y Dwyrain, nid hawdd oedd dilyn y llwybrau ynghanol y tir corsog. Cyrraedd copa’r Foel Fraith a disgyn lawr ychydig i gael paned mewn llecyn cysgodol.

Ail gychwyn ar y daith eto gan ddilyn llwybr anodd i’w weld ar adegau a’r odre’r Garreg Las gan gyrraedd Copa Carreg yr Ogof ymhen ychydig. Y tywydd, bellach, yn dechrau clirio fel ein bod yn gallu gweld Picws Du a Bannau Sir Gâr yn y pellter.

Troi nôl i’r De dros gopa Carreg Las a charnau y mynydd. Roedd hi’n mynd yn anoddach i droedio gan fod y copaon yma wedi brigo ac erydu digon i’r garreg galch fod yn amlwg ar y wyneb. Cafwyd cinio wrth un o’r carnau mawr gan fwynhau yr olygfeydd dros Bae Abertawe a Bro Gwyr.

Disgyn wedyn lawr nes dilyn y llwybr i’r Gorllewin tuag at Foel Fraith a Foel Fawr. Ymhen tipyn dyma weld yr heol ar maes parcio ac o fewn hanner awr dyma gyrraedd nôl i’r man cychwyn.

Taith o thua 10 milltir i gyd. Diolch i Guto am arwain y daith ac i’r gwmni difyr a hwyliog.

Adroddiad gan Dewi

Lluniau gan Alison a Dewi ar FLICKR