HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Moelwyn Bach 13 Tachwedd


Efallai mai’r apêl o ginio blasus yn yr Oakley oedd y rheswm pam y daeth 21 o aelodau’r clwb i lan Llyn Mair ger Maentwrog ar ddiwrnod y Cyfarfod a’r Cinio Blynyddol. Wedi llenwi’r maes parcio efo’n ceir, cerddwyd i ben y llyn ac yna dilyn llwybrau cyhoeddus drwy Warchodfa Natur Coedydd Maentwrog gan gadw’n weddol gyfochrog â lein trên bach Ffestiniog.

Oedwyd wrth hen blasty Plas yn Dduallt; mae peth o’r coed yn y nenfwd yn dyddio nol i tua 1560 ond creadigaeth yr ugeinfed ganrif yw’r ffenestri cul ar ffurf agennau saethau ar y tu blaen. Y Cyrnol Andrew Campbell, a brynodd y lle yn 1962, oedd yn gyfrifol am y rheiny. Gan nad oedd ffordd at y tŷ bryd hynny cafodd ganiatâd gan gwmni’r rheilffordd i yrru ei injan stêm ei hun o orsaf Tan-y-bwlch i seidin preifat uwchben y tŷ. Roedd ganddo gadwyn ar bolion i drosglwyddo nwyddau o’r seidin i’w gartref!

Cafwyd paned ar blatfform gwag Gorsaf Dduallt ac yna mynd tua’r gogledd ar lwybr da os gwlyb hyd at gyrion Llyn Tanygrisiau a throi i’r mynydd a dilyn llwybr annelwig i fyny at Lyn Stwlan. Manteisiodd un ar y cyfle anfwriadol i olchi ei ddillad wrth groesi cerrig llithrig dros Nant Ddu! Cafwyd lloches ddigon cyfforddus i fwyta cinio yng nghysgod mur yr argae ac ymlaen â ni i Fwlch Stwlan. Gan fod niwl yn cuddio’r copaon, doedd neb awydd ymweld â Moelwyn Mawr felly Moelwyn Bach amdani. Ychydig o dan y copa, gyda heulwen ysbeidiol yn torri drwy’r cwmwl, cafodd amryw weld amlinell glir Bwgan y Niwl oddi tanom. Diolch i Rhys am ein cyflwyno i hen enw ei nain ar Brocken spectre.

O’r copa dilynwyd ysgwydd orllewinol y mynydd i lawr i’r ffordd gefn o Groesor gan fwynhau golygfeydd da o Ddyffryn Maentwrog. Er bod tri chwarter awr o gerdded ar hyd y ffordd honno, nis gwelwyd yr un cerbyd cyn troi i lwybr byr i Orsaf Tan-y-bwlch ac yna’n ôl i’r maes parcio. Taith chwe awr a naw milltir gan amgylchynu Moelwyn Bach a phawb yn barod am swper!

Rhys Dafis, Gwyn Wms, John Arthur, Tegwen, Paula, Gwyn Rbs Llanberis, Geraint Efans, Siân Shakespear, Rosie, Sioned Llew, Alice, Iolo Roberts, Mark Wynn, Iolyn, Anne Till, Gwyn Rbs Deiniolen, Elen Huws, Raymond, Keith, Gareth Wyn ac Eryl oedd y cerddwyr.

Adroddiad gan Eryl

Lluniau gan Elen a Sioned ar FLICKR