Bryniau Maentwrog 14 Gorffennaf
***** Bydd cyfle arall i wneud y daith hon ar Awst 18fed.
Daeth pymtheg ohonom at ein gilydd ger hen gaer Rufeinig Tomen y Mur i gerdded Fryniau Maentwrog. Y gamp cyntaf oedd cael y ceir i gyd i mewn i’r man parcio bychan sydd yno a llwyddwyd i wneud hynny gyda dim lle i sbario.
Roedd llawer I’w weld wrth gerdded ar hyd y ffordd tua Fwlch y Llu – amffitheatr Rufeinig, barics a tŷ bach chwarel lechi Braich Ddu, tŷ bach cyntefig arall yn Nôlddinas a mwynglawdd aur Bwlch y Llu, a’i elwir yn “Prince Edward”, wedi aur o’r gwaith gael ei ddefnyddio ar gyfer creiriau a ddefnyddiwyd yn arwisgiad Edward, Tywysog Cymru, yn 1911 (a’u defnyddiwyd eto gogyfer arwisgiad ’69).
O Fwlch y Llu, oedd rhaid taro ar draws gwlad i gopa’r Foel Wen, cyn troedio ar hyd y grib yn ôl i’r ceir.
Cafwyd cwmni 13 o aelodau – Haf, Merfyn, Dafydd, John Williams, Nia, Dewi, Anne, Iona, Elizabeth, Arwel, Judith, Raymond a Iolo ap Gwynn. Hefyd rhoddwyd croeso i ddwy ddarpar aelod o’r clwb – Angharad a Rhiannon.
Adroddiad gan Raymond Griffiths.
Lluniau gan Anne, Iona a Iolo ar FLICKR