Moelydd Ogwen 14 Gorffennaf
***** Bydd cyfle arall i wneud y daith hon ar Awst 18fed.
Daeth dwsin i gyd-gerdded gan gychwyn o Fethesda am bentref Carneddi ac yn Hen Barc troi am y bryniau ar ôl cofio am William Griffith a defaid William Morgan. Dilynwyd llwybr braf hyd waelod Moel Faban a’r Llefn, heibio i Fwlch Molchi (ar lafar) a chyrraedd olion cell neu eglwys Llanylchi.
Dringo wedyn i fyny am y Gyrn gan oedi i edmygu’r golygfeydd gwych. O’r copa caregog aethon i lawr yr ochr bellaf ac heibio’r corlannau, sydd yn dal i gael eu defnyddio gan ffermwyr y Carneddau, gan anelu am y Drosgl. Wedi cyrraedd tir gwastad, braf oedd troi am Gyrn Wigau ac i lawr allt. Cafwyd cinio gan ryfeddu at ogoniant Cwm Caseg a’r Carneddau.
Mynd ar i lawr wedyn, croesi Afon Ffrydlas ac yn ôl i Fethesda heibio gwaelod Moel Faban ar ôl ffarwelio â Gareth Tilsley a’i ŵyr Iestyn. Yng Nghilfodan pasiwyd dau dŷ efo plac glas – Syr Idris Foster a Ben Fardd ac wedyn cartref y prifardd Ieuan Wyn yn Carneddi.
Diolch am gwmni Glyn Tom, Alun Gelli, Nia a Mags, Anet, John Arthur, Sioned Huws, Elin Walker Jones a Alice Oddy.
Adroddiad gan Rhys Llwyd.
Lluniau gan Gareth ag Anet ar FLICKR