HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Fan Hir a Bannau Sir Gâr 14 Awst


Nid oedd rhagolygon y tywydd yn wych ar gyfer y daith hon, ond er hynny daeth saith o gerddwyr gwydn ynghyd i’r man cyfarfod ger Tafarn y Garreg, wrth ochr yr A4087 ger Glyn Tawe.

Gan obeithio i’r tywydd wella wrth i ni fwrw mlaen fe ddechreuon ar ein ffordd. Ar ôl croesi’r brif ffordd ac yna croesi yr afon Tawe, a’i dilyn am ryw dri can llath, dyma ni’n troi am y bryniau. Ar ôl cyrraedd y lloc defaid, yn hytrach na dilyn y llwybr yn syth lan at  Fan Hir, fe gymeron y llwybr i’r dde, tuag at gyfeiriad Llyn y Fan Fawr, gan ddilyn, ar ôl ychydig, Nant Tawe Fechan. Ar ôl y glaw diweddar roedd hon yn llifo’n fyrlymus ar ei chwrs tuag at yr afon Tawe, rhyw chwarter milltir i’r gogledd o fan cychwyn y daith. Trawiadol felly oedd y rhaeadrau oedd i’w gweld ar y ffordd a braf hefyd oedd gweld Bronwen y Dŵr yn ei chynefin wrth chwilio am fwyd yn y nant.

Fe ddilynom y llwybr gan ddringo’n raddol lan y cwm, gan groesi’r Tawe Fechan ger un o’r rhaeadrau, ac yna ymlaen dros Fan Fechan, ac ar ol rhyw dair milltir cyrraedd glannau Llyn Y Fan Fawr. Gan fod tipyn o gysgod yma rhag y gwynt, fe achubon ar y cyfle am ddishgled glou.

Ymlaen wedyn gan gerdded o amgylch ochr ddwyreiniol y llyn, gyda llethrau dwyreiniol serth Fan Frycheiniog yn gudd yn y niwl.
Cerdded ymlaen heibio i Gwal y Cadno wedyn, sef adfeilion hen gorlan gerrig a saif wrth droed Fan Foel. Awgryma patrymau’r waliau bod hwn wedi bod yn adeilad fferm ar un adeg, a ddefnyddiwyd o leiaf yn dymhorol, os nad yn barhaol, a gellir gweld o leiaf tair ystafell, gyda bylchau yn y waliau lle bu’r drysau.

Fe ddilynon ni’r llwybr o amgylch troed y Fan Foel hyd lle mae’r afon Sychlwch yn disgyn lawr y clogwyn, cyn dringo‘r llwybr serth lan am Fwlch Blaen Twrch. Troi yn ôl tua’r dwyrain wedyn, gan esgyn ac anelu am gopa Fan Foel. Ond gydag amser cinio yn agosau, roedd y gysgodfan gerrig ger copa Fan Brycheiniog yn fwy atyniadol, ac felly penderfynwyd torri ar draws y mynydd at Fan Brycheiniog. Ar ôl rhyw ddeg munud arall, daeth y pwynt trig i’r golwg drwy’r cymylau. Hwn oedd uchafbwynt y daith (o ran uchder!!) ar uchder o 802 o fetrau.

Ar ôl cinio, gyda’r gysgodfan yn cynnig peth cysgod rhag y gwynt a’r glaw, ymlaen at gymal ola’r daith, sef ar hyd llwybr y Bannau, i lawr at Fwlch Giedd ac yna esgyn dros Fan Hir (761 m) ac yn ôl tuag at gyfeiriad man cychwyn y daith. Buom yn ffodus i’r cymylau godi ar y rhan yma cyn i ni ddisgyn lawr ochr ddeheuol Fan Hir, a chawsom gyfle i werthfawrogi’r golygfeydd godidog o’n hamgylch. Estynai ehangder rhosdir y Mynydd Du i’r gorllewin, Bae Abertawe a gogledd Ddyfnaint tua’r de, Fan Gyhirych, y Bannau dwyreiniol a’r Mynyddoedd Duon tuag at y dwyrain a copaon Bannau Sir Gar y tu ôl, tua’r gogledd.
Ar ôl taith o ddeg milltir a 2,500 troedfedd o esgyn, braf oedd cael diod yn yr haul yn Nhafarn y Garreg. Diolch i Dewi, Pwt, Pens, Elin, Richard a Meirion am eu cwmni.

Adroddiad gan Eurig.

Lluniau gan Dewi ar FLICKR