HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Aran Benllyn i Gader/Gadair Idris 14 Awst


Cyfarfu naw ohonom a ddechreuodd yr un daith ym mis Gorffennaf ar sgwâr Dolgellau i ddal y bws 6.25 i Lanuwchllyn i gychwyn cerdded am 7.00. Roedd gwell tywydd y tro hwn, gyda’r cwmwl yn ddigon uchel y rhan fwyaf o’r amser i ni fedru gweld o’n cwmpas a dim byd gwaeth nag adegau o law mân.

Teimladau cymysg oedd gennym, wrth gwrs, a ninnau’n cofio am gwmni hawddgar a brwdfrydedd heintus Gareth Pierce y tro diwethaf i ni droedio llechweddau’r ddwy Aran. Wedi cyrraedd y man lle collwyd Gareth cafwyd ychydig funudau i gofio amdano a gadawyd copi yno o englyn gwych Meirion Jones, Pentre-cwrt wedi ei arysgrifo ar ddarn o garreg-. Mae’r englyn wedi ymddangos eisoes ar wefan y clwb (adroddiad taith Cwm Nedd, 10 Gorffennaf) ond mae’n werth ei gofnodi eto;

Yn ei waed dringwr ydoedd a garai
      ymgyrraedd y Gwerthoedd,
   un ym mri ei Gymru oedd,
   yn eiddo i’w mynyddoedd.

Er gwaethaf y gwlychu traed anorfod wrth ddod lawr Aran Fawddwy am Fwlch Cosyn a thros gefnen Glasgwm i Fwlch Oerddrws ac ambell i dynfa serth ar i fyny, cwblhawyd y daith yn weddol ddi-drafferth. I’r rhai fyddai â diddordeb, dyma rhyw syniad sut y bu pethau;

Llanuwchllyn 7.00
Aran Benllyn 8.50 – 9.05
Aran Fawddwy 9.50 – 10.00
Bwlch Cosyn 10.55 – 11.05
Glasgwm 11.15 – 11.30
Bwlch Oerddrws 12.55 – 1.10
Waun Oer 2.35 – 2.40
Bwlch Llyn Bach (Tal-y-llyn) 3.30 – 3.50
Mynydd Moel 5.20 – 5.30
Pen-y-Gadair 5.50 – 6.05
Dolgellau 7.55

Y criw oedd Raymond, Carwyn, Sonia, Tegwyn, Dylan, Dwynwen, Manon, Keith ac Eryl.

Adroddiad gan Eryl.

Lluniau gan Keith ar FLICKR