Cader/Cadair Idris 14 Awst
Doedd dim sôn am law, wrth i un ar ddeg ohonom ymgynnull ym maes parcio Minffordd, sef Gaenor, Buddug, Gwyn, Eifion, Peter, Iona, Richard, Iolo, Alice, Arwel a minnau.
Er mwyn osgoi’r tyrfaoedd ar lwybr Cwm Cau, penderfynais ddilyn llwybr anghynefin. O’r maes parcio cerddom ar hyd y ffordd fawr am oddeutu hanner milltir, heibio hen gapel Ystradgwyn mor bell â Beudy Llwyn Dol Ithel ac wedyn ymlaen ar hyd yr wtra at Bentre’ Dolamarch. Ar un adeg mae’n debyg bod nifer o dai yn y Pentre’ ond erbyn hyn dim ond yr hen dŷ fferm sydd ar ôl, a hwnnw’n wag.
Mae olion y llwybr cyhoeddus sy’n arwain i mewn i’r ceunant uwchben y Pentre’ wedi llwyr ddiflannu ac er mwyn osgoi rhedyn trwchus, roedd gofyn i ni wyro at lethrau Mynydd Pentre’. Doedd dim modd osgoi’r llechwedd glaswelltog serth ond wrth i Lyn Mwyngil agor allan oddi tanom, cawson olygfeydd godidog i’n gwobrwyo am ein hymdrechion chwyslyd. Syndod oedd gweld criw o bobl yn nofio hyd y llyn.
Ar ôl cael paned ger yn nant yng Nghwm Amarch, aethom i fyny’r trwyn sy’n cysylltu Mynydd Pencoed a’r Graig Ddu. Daeth trem o Ddyffryn Dysynni a Chraig y Deryn i’r golwg rhwng y cymylau ond wrth i ni nesáu at grib Mynydd Pencoed mi ddaeth y niwl i lawr ac roedd rhaid i ni wisgo ein dillad glaw. Ymlaen wedyn at Graig Cau i ymuno efo llwybr Minffordd a’r llu o gerddwyr. Cawsom ginio mewn man cysgodol cyn cyrraedd Penygadair. Doedd dim pwynt aros am hir ar y copa yn y glaw mân a doedd neb am fentro i mewn i’r cwt. O gopa’r Gadair dilynom y grib at Fynydd Moel yn y niwl ac oddi yno i lawr y llethr i’r dwyrain a dilyn Nant Cae Newydd at lwybr Minffordd. Yn ôl pob golwg roedd pawb wedi mwynhau’r daith , er gwaetha’r niwl a’r glaw.
Adroddiad gan Alun.
Lluniau gan Alun a Iona ar FLICKR