Bedd Morris-Taith y Preselau 15 Mai
Deuddeg o aelodau oedd wedi cofrestru ar y daith ac roedd y 12 wedi cyrraedd y man cychwyn, Bedd Morris, mewn da bryd. Dyma oedd y tro cyntaf i’r rhan fwyaf gerdded mewn grŵp am amser hir - dros flwyddyn i rai.
Roedd pawb yn falch o fod yno, ond yn pryderu am y tywydd. Doedd y rhagolygon ddim yn addawol ac roedd sawl diwrnod cyn y daith wedi bod yn wyntog ac yn lawiog. Cyflwynwyd un aelod newydd, sef Nigel Blake ac aelod arall, Mark Davies, oedd ar ei daith gyntaf yn y de.
Ar ôl clywed sawl esboniad posibl am darddiad enw Bedd Morris, aethom i’r gorllewin ac ar ôl tua 2.5 km, oedodd y grwp i edrych ar y crafiadau ar Garn Enoch (Gweler un o’r lluniau). Soniwyd am y nifer o esboniadau gwahanol. Ai ysgrifen Ogam yw’r marciau, neu galendr yn nodi codiad y lleuad dros fynydd yn Iwerddon? Does neb yn sicr.
Ymlaen i Garn Fawr a thynnu lluniau o’r grŵp. Troi wedyn i’r gogledd a dechrau mynd i lawr tuag at bentref Dinas. Ar ôl gwylio’r fferi o Iwerddon yn cyrraedd porthladd Abergwaun, arhosom i gael ‘te deg’ tua 11 o’r gloch cyn croesi’r brif heol.
Ymlaen wedyn i Aber Bach a dilyn llwybr yr arfodir i’r gogledd/gogledd ddwyrain i gyrraedd Pwllgwaelod. Penderfynodd dau aelod gymryd y llwybr uniongyrchol i’r dwyrain i gael hoe yng Nhgwm yr Eglwys, wrth i’r 10 arall gerdded o gwmpas Pen Dinas.
Cawsom ginio yng Nghwm yr Eglwys lle mae un talcen o hen eglwys yn dal i sefyll. Dymchwelwyd y rhan fwyaf o’r eglwys gan ‘storm y Royal Charter’ ar 25-26 Hydref 1859 pan suddodd y Royal Charter a cholli tua 450 o fywydau ar arfordir Ynys Môn.
Wrth inni ddechrau bwyta, cododd y gwynt, tywyllodd yr awyr a dechreuodd hi fwrw glaw. Fel roedd pawb yn dechrau tynnu dillad glaw o’u bagiau, peidiodd y glaw, stopiodd y gwynt, cliriodd y cymylau a chafodd rhai gyfle i fwynhau hufen iâ.
Ymlaen wedyn ar lwybr yr arfordir i Fae Fforest cyn troi am y de, croesi’r heol fawr a dilyn llwybrau lan y mynydd yn ôl i’r man cychwyn. Roedd pawb yn rhyfeddu bod ni wedi cael tua 5 munud yn unig o law, ac hynny’n ysgafn, a phob un wedi mwynhau mas draw. Mae’n braf bod yn ôl yn cerdded gyda’r Clwb ac edrychwn ni ymlaen at ragor o deithiau gwych dros y misoedd nesaf.
Adroddiad gan Digby Bevan .
Lluniau gan Digby ar FLICKR