HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Cylchdaith Moelyci 15 Medi



Ar fore hyfryd o Fedi cyfarfu 17 ohonom ym maes parcio Fferm a Chanolfan Amgylcheddol Moelyci ger Tregarth.  Cychwynnwyd ar hyd y lôn fferm i gyfeiriad Tŷ’n Y Caeau cyn troi i’r chwith i ddilyn llwybr trwy goedlan hyfryd. Wedi dringo rhywfaint, cyrhaeddwyd at y lôn fach islaw Waen Hir Uchaf ac aethom i’r dde gan ddilyn Llwybr Y Pererinion am sbelan. Nadreddu ein ffordd i fyny wedyn drwy goedwig binwydd cyn dod allan i’r heulwen eto ym Mwlch Defeity; llecyn dymunol i gael panad a mwynhau’r olygfa wych i lawr at y Fenai tuag at Biwmares ac Ynys Seiriol. Ymlaen am blwc ar hyd ffordd goedwigaeth cyn dod allan yr ochr ddwyreiniol i gael golygfa fynyddig y tro hwn dros fro Bethesda tuag at Foelydd Ogwen a’r Carneddau. Diolch i Richard Ogwen am rannu ei wybodaeth o'r ardal. Trwy’r giât wedyn i ddilyn llwybr trwy’r grug i fyny i gopa Moelyci lle cafwyd cinio. Lle da i gael golygfeydd 360 gradd ond erbyn hyn roedd cymylau’n cuddio copaon Elidir a’i chriw a Moelydd yr Wyddfa. Ond cafwyd golygfeydd godidog dros bentrefi Arfon tuag at fae Caernarfon ac Ynys Môn.

Ar ôl cinio, gwneud ein ffordd i lawr Moelyci ac ar draws rhostir Parc Drysgol at odre Moel Rhiwen. Gwneud gwyriad bychan wedyn i weld adfail bwthyn Maes Meddygon a chael peth o hanes bywyd caled y teulu olaf i fyw yno ar droad y ganrif ddiwethaf. Ar i lawr wedyn heibio coed criafol prydferth yn llawn o aeron coch cyn ymuno hefo’r llwybr sy’n arwain i bentref Rhiwlas. Rhaid oedd stopio yng Ngharreg y Gath i gael llun o’r criw yn sefyll ger cyn-gartref Gwen Aaron!  Ymlaen â ni a dotio at dri mochyn yn bolaheulo a thwrci tew mewn perllan yr ochr arall i’r llwybr. Croesi’r llethr o dan ochr ogleddol Moelyci ac ymuno gyda hen ffordd drol a llwybr hynafol i lawr at ficerdy Rhyd y Groes. Roedd y rhan olaf yn eitha gwastad ar dir amaethyddol gan fynd trwy sawl giât mochyn, yn cynnwys un arbennig o gul! Wedi cyrraedd yn ôl arhosodd tua dwsin ohonom i gael panad a chacen haeddiannol yng Nghaffi Blas Lôn Las.

Diolch yn fawr am gwmni difyr y canlynol; Haf, Gwyn Chwilog, Anet, John Arthur, Alun Gelli, Gareth Tilsley, Rhiannon a Clive, Iona a Mair, Mags Sir Fôn, Glyn Tom, Buddug, Gwen Richards, Richard Ogwen a Nest Jones. 

Adroddiad gan Nia Wyn

Lluniau gan Anet, Gareth a Gwyn ar FLICKR