HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Capel Curig a Chlogwyn Mawr 15 Rhagfyr


Da gweld  dauddeg dau o bobl brwdfrydig yn cyrraedd maes parcio Bryn Glô yn brydlon ac yn barod am daith i ben y Clogwyn Mawr. Dechrau cerdded yn raddol heibio cwt dringo Bryn Brethynau a hen adfail pren Nyth Brân .Yna ymlaen drwy goedfan cyll a derw cyn cyrraedd y ffridd agored. Dilyn y llwybr llechi am ychydig cyn gadael y llwybr wrth bont Nant y Geuallt. Dringo’n fwy serth rwan .Y tir yn garegog ac yn wlypach ar y llwybr i gopa‘r Clogwyn Mawr.

Er ddim ond 347 m o uchdwr mae golygfeydd da o Eryri o gopa”r bryn ar ddiwrnod braf. Hefo’r gwynt yn cryfhau dyma benderfynu peidio cael paned ar y copa ond yn is i lawr yng ngysgod y coed.

Draw heibio‘r Pincin a siop Joe Brown ac i fyny at Gelli. Gelli oedd cartref y cyn chwarelwr a naturiaethwr Evan Roberts a oedd ar un adeg yn warden ar Gwm Idwal.

Cerdded heibio’r Gelli ac ar hyd yr hen ffordd i Blas y Brenin. Croesi’r Afon Llugwy wrth geg Llynnoedd Mymbyr ble roedd criw o geufadwyr yn cael hyfforddiant.

Cerdded yn ôl i‘r ceir drwy Coed Bryn Engan ac heibio Gwesty Tan y Bwlch a gafodd ei hail enwi yn Cobden’s Hotel ar ôl y circedwr enwog o’r pedwaedd ganrif a’r bymtheg - Frank Cobden. Diweddu’r daith drwy fynd dros Bont Cyfyng ac heibio’r pistyll oedd yn llawn bwrlwm ac yn llifo’n gryf.

Nadolig Llawen i bawb a diolch am y cwmni.

Adroddiad gan Arwel

Lluniau gan Arwel a Iolo ar FLICKR