HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Cwm Lledr 16 Mai


Dyma griw ohonom yn cyfarfod ger pen uchaf Bwlch y Gorddinan, neu pen lon Crimea fel mae wedi ei fedyddio yn enw ffug lleol ar yr A470 ger Blaenau Ffestiniog (Buddyg, Llinos, Cemlyn, Dafydd, Trystan, Meinir, Tegwen, Dylan, Josh (Dysgwr Cymraeg) a minnau). Y bwriad oedd cychwyn ar hyd yr hen lwybr chwareli sydd bellach yn lôn Network Rail i lawr ac fewn i Cwm Lledr, ac wedyn yn nôl dros Yr Arddu ac Ysgafell Wen, gan ddarfod ar Moel Dyrnogydd. Ond oherwydd rhybydd glaw mawr a stormydd mi penderfynwyd cychwyn yn groes ac fyny am Allt Fawr ar hyd a dros Bwlch y Cwm, ac o Allt Fawr drosodd am Moel Druman, gan bwriadu wneud penderfyniad yn hwyrach ymlaen i gadw at y daith, neu droi ar ein sodlau cyn mynd rhy bell.

Mi aethom fyny yn ddi-stŵr, a pawb mewn hwyliau da gan cymryd sawl seibiant i gymryd yr golygfa o chwareli Gloddfa Ganol ac Llechwedd odanym. Wedyn o Bwlch y Cwm, fyny Allt Fawr trwy mymryn o law, gyda chriw o tair ferch lleol yn brysur ar ein sodlau.

Seibiant wedi’r dringo serth sydyn i gopa Allt Fawr (698 m), a phaned gyda'r criw ychwanegol, chydig o hanes lleol wrth edrych ar y golygfeydd draw am Gadair Idris a’r Wyddfa. Ymlaen wedyn at Moel Druman (676 m) ac wrth fynd heibio Llyn Conglog pendroni ystyr yr enw diddorol.

Cinio mewn haul ddi-wynt ar copa sydd wedi ei enwi yn lleol yn Moel Terfyn (672 m) uwchben Llyn Terfyn. Ail cychwyn wedyn gan ddringo eto am Ysgafell Wen a Llynnau’r Cwm, wedi ei enwi yn lleol i Castell Y Gwynt Bach, gan ei fod bron union yr un siapiau. Ar hyn, Trystan ac Dylan yn gweiddi i pawb edrych ar rwbath yn saethu o tu ôl i graig fel potel diod swigod yn chwythu!!  Cawsom yr fraint o fod yn dyst i un o ryfeddodau diddorol natur, sef chwrligwgan, neu gorwynt yn saethu allan o graig fel bwledi ar frys a thwrw fel awyren yn codi, ond ddim unwaith ond sawl tro drosodd a drosodd. Moment gofiadwy iawn.

Ymlaen at weddill ysgwydd gwlyb yr Arddu wedyn, lle nad oedd gan Yr Arddu fawr o groeso i ni gan fod yr awyr wedi agor ac bwrw fel fysan ddim i fod yna!!

Lawr wedyn trwy’r glaw at fferm Nhadog Isaf i waelod a phen y lôn y cwm a hen chwarel lechi Hendy, lle gawson ni seibiant o’r glaw a phaned bach cyn y rhan olaf. Wedi yr ail gychwyn cyrraedd hen adeilad o’r enw Cwm Fynhadog Uchaf a’i furiau arbennig gyda halcen a ffenestr perffaith gron ac fel talcen eglwys yn sefyll yn falch o’r coed ifanc. Yma hefyd cawsom funud i ddangos i Josh y cerrig camu yn y wal fferm, ac egluro eu pwrpas.

Taith ddi-stŵr wedyn i fyny ac heibio simdde anadlu twnel trenau Conwy i Flaenau Ffestioniog. Taith o 11.6 milltir.

Adroddiad gan Keith Roberts.

Lluniau gan Keith ar FLICKR