Diffwys a LLethr 16 Mai
Iolyn oedd i fod i arwain y daith hon, ond oherwydd ei fod yn cael trafferthion gyda’i benglin, y fi wnaeth arwain y daith. Daeth Richard a Sue Roberts, Iolo Roberts, Nia Meacher, Huw Williams, Sioned Llew, Erddyn Davies a Sian Shakespear i ymuno gyda mi ar y daith.
Dechreuwyd y daith drwy gerdded trwy gaeau Tyddyn Llidiart er mwyn gweld y Bwtsias y Gog ar y ffriddoedd, yna troi am y groesffordd a chymryd y troad am Fronyfoel. Ymlaen wedyn, gan ddilyn y llwybr am Bont Sgethin gan fynd heibio’r gromlech sydd nepell o furddun Bronyfoel Ganol ac yn nes ymlaen, heibio bryngaer Craig y Dinas. Cafwyd paned yn yr heulwen braf ar bont Sgethin sydd yn hen bont hynafol ar hen ffordd y porthmyn. Roedd y rhan fwyaf o’r cerddwyr yn gweld y bont am y tro cyntaf.
Dringo i fyny wedyn am Grib Llawllech ar hyd yr hen ffordd hon, a llyn Bodlyn yn dod i’r golwg. Erbyn cyrraedd y grib a chael cip ar y Fawddach, gweld fod y cymylau’n crynhoi ac wedi dod oddi ar yr hen ffordd a cherdded y grib am Diffwys, y glaw yn dod ac yn parhau nes i ni gyrraedd y copa.Y glaw yn peidio i ni ar y copa a gadael i ni fwynhau ein cinio a’r golygfeydd o Gwm Mynach, y Garn, Y Fawddach, Cadair Idris, ardal Ganllwyd a thu hwnt. Wedi cinio, disgyn lawr o’r copa a chroesi’r wal am Grib y Rhiw, gyda llyn Dulyn ar ein chwith. Y glaw yn dychwelyd eto pan oeddem ar y Grib. Rhyfeddwyd at y waliau cerrig crefftus a chafwyd trafodaeth am eu hanes.
Cyrraedd pendraw’r grib a chroesi wal arall, dros gamfa, a cherdded i gopa Llethr. Erbyn cyrraedd y copa roedd y glaw wedi peidio unwaith eto a’r haul yn tywynnu a gwres yr haul ar y ddaear wlyb yn achosi tarth isel i godi a chreu rhyw awyrgylch arallfydol. Wedi croesi ar draws y copa i edmygu’r olygfa o’r Rhinogydd a Llyn Hywel, gwelwyd enfys yn codi o’r llyn a’i bwa yn codi dros y graig uwch ei ben.
Cerddasom yn ôl o’r copa yr un ffordd, ond gan droi lawr am Foelyblithcwm wrth y wal. Wedi nesau at Moelfre, troi lawr ar hyd y llwybr am Gwm Nantcol. Yng Nghwm Nantcol gwelsom y gog yn ogystal a’i chlywed. Troi yng Nghwm Nantcol am y ffordd sy’n mynd dros Ben yr Allt Fawr, ble mae golygfeydd gwych o Ardudwy, Pen Llŷn, Mynyddoedd Eryri a Bae Ceredigion.
Galw heibio Ffynnon Enddwyn sydd â gallu honedig i wellhau a chael siom o weld fod yr arwydd yno yn uniaith Saesneg. Yn nes ymlaen troi i lawr yr hen ffordd drol a elwir yn lleol yn “Ffordd yr Hafod” sydd yn arwain yn ôl i Dyddyn Llidiart. Braf oedd fod pawb wedi gallu aros am baned yn ein sied rannol agored am baned wedyn a rhoi cyfle i Iolyn gael sgwrsio hefo pawb.
Diolch yn fawr i bawb a ddaeth ar y daith a diolch hefyd i Sioned am anfon lluniau.
Adroddiad gan
Eirlys Wyn Jones
Lluniau gan Eirlys a Sioned ar FLICKR