HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Gwauncwmbrwynog 16 Mehefin


Dyma’r drydedd daith i’r cwm yn ystod y mis diwethaf a doedd y tywydd yn gwella dim.  Os rhywbeth, yn mynd yn waeth fel roedd y teithiau’n datblygu.  Doedd yr ystrydeb tri chynnig i Gymro/Gymraes yn cyfrif dim yn yr achos yma.  O leiaf fe glywyd y gog yn ystod y ddwy daith gynta ond y tro  yma roedd rhy hwyr neu rhy wlyb i’r deryn.  Daeth saith ohonom i’r Ganolfan yn Llanberis sef Haf, Nest, Gareth Tilsley, Rhys Llwyd, John Arthur, Ken Jones a’r trefnydd Alun Roberts.

Cawsom y sgwrs ddechreuol gan Ken yn y Ganolfan yn llawn mor ddifyr â’r ddwy arall.  Mae ei wybodaeth o’r ardal yn ddiarhebol.  Erbyn i ni ddechrau cerdded roedd y glaw wedi peidio ac ambell i gip o’r haul.  Heibio safle arfaethedig y cerflun i’r chwarelwyr, heibio man geni Wilbert Lloyd Roberts cyn cyrraedd y Ceunant Mawr.  Bu dipyn o helynt yno y Sul cynt lle achubwyd nofiwr o`r pwll o dan y rhaeadr.  Er bod arwyddion lu yno yn dweud wrth bobl beidio nofio yno mae rhai yn dal i fentro yno.  Ken yn dweud fod saith unigolyn wedi boddi yno yn ystod ei fywyd yn Llanberis.

Yna ymlaen at Gapel Hebron lle cawsom ein cinio, ond erbyn hyn roedd y tywydd yn gwaethygu.  Er hynny penderfynwyd mynd draw i Hafoty a gweld y ddwy Nantddu.  Barn pawb oedd y dylem fynd yn ôl at lwybr yr Wyddfa a disgyn yn ôl i’r pentre lle cawsom baned a chacen flasus yn y Pantri.

Gair o rybudd os gwelwch fod Alun Gelli yn arwain taith i’r Clwb - dewch â dillad glaw, mae’n siŵr o fwrw!
Serch hynny cafwyd amser da a diolch i’r criw am fod mor hwyliog.

Cafwyd yr englyn hwn gan Meirion Jones, Llanfairpwll ar ôl yr ail daith a diolch iddo.

Daw hanes yn gadwynog - i Hebron
Ar lwybrau i annog
Sŵyn a gawn yn sain y gog
Yn anian Gwauncwmbrwynog.

Adroddiad gan Alun Gelli

Lluniau gan Gareth ar FLICKR