HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Gorllewin Crib Nantlle 16 Hydref


Wedi cydweithredu effeithiol ymysg y criw i sicrhau isafswm o geir yn y mannau parcio cyfyng ger Llyn Dulyn, cychwynwyd i fyny braich ogledd-orllewinol Mynydd Graig Goch. Er mai copa isaf y diwrnod, a’r grib yn ei chyfanrwydd, oedd hwn, roedd yn y niwl a oedd wedi sodro’i hun ar y topiau ers ben bore. Gyda llawer yn dweud mai dyma’r tro cyntaf iddynt ddringo Crib Nantlle o gyfeiriad Nebo, neu na ddaethant cyn belled â phen gorllewinol y grib o’r blaen, roedd y biti nad oedd posib gweld y golygfeydd eang a thrawiadol sydd i’w cael yma. Fodd bynnag, roedd yna rhywbeth hudolus am fod yn y cymylau, gyda’r gorwelion cyfyng yn amlygu ffurf  amrywiol a hyfryd y grib. O gopa creigiog Mynydd Graig Goch, aed ymlaen ar hyd y gefnen lydan sy’n hel dŵr i Lyn Dulyn, heibio’r bwlch bach cul uwchben y llyn ac i fyny ochr garegog serth Garnedd Goch i’w gopa. Hoe yma, yna ymlaen ar hyd y darn mwyaf llydan a gwastad o’r grib i’w mynydd uchaf, Craig Cwm Silyn, yn 734m. Troi nôl yma, a dilyn llwybr i lawr yn union uwchben creigiau serth Clogwyn y Cysgod  - a dod allan o’r niwl. Hyfryd oedd gweld Llynnau Cwm Silyn oddi tanom, chwareli Dyffryn Nantlle, a’r tir yn ymestyn i’r môr. Cafwyd dargyfeiriad ar y ffordd i lawr i ymweld efo Bryn Llidiart, murddun erbyn hyn, ond cartref ble magwyd dau o brifeirdd ac enwogion y fro, sef Silyn a Mathonwy. Dychwelwyd at y ceir heibio ymyl Cors y Llyn, ble cawsom fonws o daro ar Twm Elias, a chael sgwrs ddifyr ag o!

Diolch am gwmni hwyliog Alice, Eirwen ac Alun, Dylan, Gwen (Chwilog), Anet, Morfudd, Ariannell a Sandra, Rhiannon (James), Nia Wyn a Nia Meacher, Arwel, Erddyn, Gwyn (Llanrwst), Eirlys ac Iolyn.

Adroddiad gan Elen Huws

Lluniau gan Elen, Rhiannon, Arwel ag Anet ar FLICKR