HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Pedol Ffestiniog 18 Gorffennaf


Ar fore pan oedden ‘nhw’ yn addo iddi fod y diwrnod poethaf o’r flwyddyn dyma gyfarfod toc wedi 7:00 yng nghanol Blaenau Ffestiniog. Pawb yno yn fuan efo digon o eli haul yn barod am ddiwrnod hir a phoeth. Cychwynnodd unarddeg ohonom ar y daith sef Dwynwen, Gerallt, Dylan, Manon, Andras, Gethin, Eryl, Sonia, David, Iolo a Mark.

Ar ôl cerdded hamddenol drwy Danygrisiau i Ddôl Rhedyn dyma ddechrau y dringo i fyny at argae Stwlan. Efo’r ffordd newydd ei tharmacio doedd dim dianc rhag y gwres a braf oedd cael mynd i’r mynydd a cael ychydig o awel ym Mwlch Stwlan. 

Ar ôl ‘piciad’ i gopa Moelwyn Bach dyma ddechra dros y copaon a hawlio Craig Ysgafn, Moelwyn Mawr a Moel yr Hydd cyn disgyn lawr i chwarael Rhosydd. Ymlaen wedyn heibio Llyn yr Adar i gopaon Ysgafell Wen, Moel Druman ac Allt Fawr. Roedd y gwres ar ei anterth ar gopa Allt Fawr a thoeau Blaenau fel tae nhw yn crynu yng ngwres yr haul.

Dyma ddisgyn lawr i Fwlch y Creimia lle oedd Iolyn a John Parry wedi gadael car efo galwyni o ddŵr i’r criw a da iawn oedd ei gael hefyd! Ar ôl disychedu a ffarwelio efo Mark dyma gychwyn i fyny ochor arall y bwlch a chyfarod y dŵr gludwyr ar gopa Moel Farlwyd. 

Efo’r tir dan draed dipyn yn fwy garw na hanner cyntaf y cylch dyma ni ymlaen i gopaon Moel Penamen, Foel Fras, Graig Ddu a Manod Mawr cyn disgyn i lawr cyfres o incleiniau yn ôl i Blaenau. Ddaru rywun grybwyll ‘piciad’ i ben Manod Bach ar y ffordd lawr ond “NA!” pendant ddaeth gan pawb. 

Peint haeddiannol yng ngwesty Tŷ Gorsaf (Y Queens cynt) ar ôl taith 20 milltir a 6600 troedfedd o ddringo. Diolch i pawb am eu cwmni.

Adroddiad gan Dwynwen Pennant.

Lluniau gan Gerallt ar FLICKR