Bryniau Gogledd Ceredigion 18 Medi
Dyma ni unwaith eto yn crwydro i fyny trwy Gwm Clettwr, ynghyd a Digby a Helen, Lisa, Dafydd, Rosie, Huw, Eurig ac Eileen. Yn ffodus y tro yma, roedd Lisa a Dafydd Parry yn adrodd hanes y gadwraeth sydd yn digwydd yno ag am y mathau o goed pryn yn y cwm.
Er oedd y tywydd braidd yn llwm ar adegau, cawsom ambell hindda wnaeth ddangos yr olygfeydd godidog o Foel Y Llyn, Esgair Foel Ddu a Foel Goch. Roedd gweld sgwarnog, hebog tramor a chudyll coch hefyd yn bleser wrth ddisgyn o'r ucheldir, ag yn bendant fydd sawl un yn ail ymweld ar lonydd hudolus yma cyn hir.
Adroddiad gan Dafydd Pugh-Jones
Lluniau gan Dafydd ar FLICKR