Pedol Elidir 18 Rhagfyr
Daeth y daith hon ag amryw o atgofion yn ôl am yr un penwythnos cyn y Nadolig a bod allan gyda'r clwb. Taith llynedd mewn gwynt a glaw ar Tryfan gan ddychwelyd yn gynnar yn socian i'r croen. Taith wnes i arwain rhyw 4 mlynedd yn ôl mewn eira ble allwn weld fawr o ddim ar wahan i nodwydd y cwmpawd! Rydym wedi arfer gyda amodau heriol yr amser yma o'r flwyddyn felly mi oedd yn syndod darllen y rhagolygon eleni.
Bore bendigedig pan wnaethom gyfarfod yn y maes parcio ym Methesda a felly bu hi drwy'r dydd. Diwrnod rhy braf i feddwl am siopa dolig i Iolo, Richard, Elen, Nia, Trystan, Dylan a dau aelod newydd sef Berwyn a Mat.
Fe ddilynom y Llwybr Llechi hyd yr Afon Ogwen a wedyn Afon yr Ocar i Fynydd Llandygai ac ymlaen dros dir eithaf corsiog hyd at giat lôn Marchlyn. Eirwen a Gwyn Chwilog yn ymuno gyda ni wrth y giat a chyfle sydyn i dynnu cotiau gyda'r tymheredd yn cnesu wrth i ni godi uchder. Ar ôl dilyn y lôn at argae Marchlyn Bach a mwynhau paned roeddwn allan ar y mynydd yn dringo yn serth at gopa Elidir Fach.
Golygfeydd anhygoel ym mhob cyfeiriad heb fath o gwmwl yn yr awyr. Ymlaen a ni dros gopa Elidir Fawr a chroesi'r grib ar ôl cinio at Mynydd Perfedd a Charnedd y Ffiliast. Braf cyfarfod a sgwrsio gyda nifer o bobol lleol rhwng Mynydd Perfedd a Charnedd y Ffiliast. Mat (Daearyddwr) yn hapus rhoi darlith fyr a difyr i ni am sut oedd yr "Atlantic Slabs" wedi eu creu gan ddangos hoel tonnau ar y graig ers amser pan oedd rhain yn rhan o wely'r mor.
Farwelio â Gwyn ar gopa y Fronllwyd. Fel oedd yr haul yn machlud mi oedd golau olaf y dydd yn taro ar y Carneddau werth ei weld ac yn tynnu sylw oddiar y gwaith caled o gerdded drwy'r grug i lawr i Nant Ffrancon. Dilyn y Lon Las yn ôl am Fethesda o dan olau lleuad llachar.
Diwrnod heb ei ail! Taith 11.5 milltir gyda 781 m o ddringo.
Adroddiad gan Stephen
Lluniau gan Richard, Gwyn ac Elen ar FLICKR