HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Y Cnicht a’r Moelwynion 20 Mehefin


Glaw? Pa law? Doedd rhagolygon y tywydd ddim yn dda ar gyfer y diwrnod. Ganol yr wythnos cyn y daith roedd proffwydi’r tywydd yn addo rhywbeth rhwng glaw trwm a dilyw. Amser meddwl am gynllun wrth gefn. Erbyn y diwrnod cynt roedd pethau’n edrych yn llawer mwy gobeithiol a phan godais fore Sul, roedd yr haul yn tywynnu, ac felly roedd hi pan gyrhaeddais Croesor. Mae darogan y tywydd yn dipyn o her hyd yn oed yn yr oes dechnolegol sydd ohoni.

Nid myfi yn unig fu’n gwylio’r rhagolygon tywydd gan fod dipyn o syndod a rhyddhad ar wyneb ambell fynyddwr arall wrth gyrraedd ar gyfer y daith o weld ei bod yn sych yng Nghroesor (hyd yn oed os oedd cymylau ar y copaon y bwriadem eu dringo). Felly, cychwynodd y naw ohonom yn brydlon am gopa’r Cnicht gan aros bob yn hyn a hyn i edmygu’r golygfeydd i lawr am y Traeth Mawr a Morfa Harlech. Erbyn cyrraedd y copa roedd y cymylau wedi diflannu gan roi golygfa i bob cyfeiriad i ni. Roedd golygfa drawiadol o’r Wyddfa wrth i’r cymylau lifo fel hufen i lawr ei hochr gan adael dim ond crib Bwlch Main yn y golwg.

Wedi saib ar gopa Cnicht aethom ymlaen at Lyn yr Adar ac ar draws y corstir at Chwarel y Rhosydd. Roedd pyliau o wynt cryf mewn mannau  ond o gofio’r hyn a ragolygwyd doedd hynny ddim yn rhywbeth i gwyno amdano. Cafwyd cinio yng nghysgod un o waliau Chwarel y Rhosydd a chan fod yr hwyliau a’r tywydd yn dda penderfynwyd ychwanegu copa arall at y daith felly dringwyd Moel yr Hydd a chael golygfa aderyn o Flaenau Ffestiniog. Roedd hi’n sych yn fanno hyd yn oed.

Ymlaen â ni wedyn i gopa Moelwyn Mawr, i lawr Craig Ysgafn ac i gopa Moelwyn Bach. Wedi disgyn i lawr y gefnen at y ffordd fynydd a’n harweiniodd yn ôl i Groesor roeddem yn ôl yn y maes parcio mewn da bryd i’r ffans fynd adref i wylio gêm Cymru yn erbyn yr Eidal. Welwyd yr un diferyn o law yn ystod y dydd ac roedd pob copa’n glir erbyn i ni eu cyrraedd.

Diolch i Gethin, Andras, Alice, Dylan, Iolo, Erddyn a Llinos am eich cwmni difyr yn ystod y dydd ac i Ifan am gyd-arwain y daith gyda mi.

Adroddiad gan Gareth Huws

Lluniau gan Gareth ar FLICKR