HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Rhobell Fawr 20 Tachwedd


Bellach gwyddom pa un yw hoff fynydd aelodau Clwb Mynydda Cymru. Na, nid yr Wyddfa, Cadair Idris na Thryfan – ond Rhobell Fawr! Dyna, mae’n rhaid, pam y daeth 31 i Lanfachreth ar yr 20fed o Dachwedd!

Wedi cyfarfod ger yr hen ysgol yn y pentref, penderfynwyd gwneud y daith yn erbyn y cloc felly dilynwyd cyfuniad o lwybrau ac un pwt o ffordd tua’r dwyrain heibio i Gae-crwth, Cae-glas a Chae-heuad i gyrraedd y ffriddoedd ac yna dringo’n raddol at hen chwarel Cae’r Defaid. Fel yr oeddem yn tybio o edrych ar y tomennydd gwastraff gerllaw, ychydig iawn o lechi o unrhyw ansawdd a gloddiwyd yno er i’r chwarel fod ar werth yn 1897 fel un oedd yn cynnig ‘cyfleoedd sylweddol’ i fuddsoddwyr.

Cerdded wedyn drwy goed Ffridd y Castell a dal i ddilyn y llwybr tan tua pwynt 788 246 ac yna wynebu dringfa sertha’r dydd gan ddilyn wal yr holl ffordd i’r copa. Cyn cyrraedd, bachwyd ar y cyfle i oedi am ginio yn yr haul a oedd newydd ymddangos; penderfyniad doeth gan ei bod yn ddigon gwyntog ac oer ar y copa. Er mai ychydig dros 2400’ yw uchder Rhobell Fawr, mae golygfeydd eang i bedwar cyfeiriad i’w cael; Arenig Fawr tua’r gogledd, Bryniau Clwyd a’r Berwyn yn y cefndir, y ddwy Aran yn amlwg i’r dwyrain a chopaon Glasgwm a Waun Oer yn arwain at grib Cadair Idris, gyda chip o Bumlumon yn y pellter. I’r gorllewin, gwelir Y Garn a chrib y Rhinogydd ar ei hyd gyda’r Moelwynion a chopaon Eryri ymhellach i ffwrdd tua’r gogledd-orllewin a chymoedd coediog Hermon ac Abergeirw oddi tanom i’r gogledd.

Bras gamu lawr o’r copa i Fwlch Goriwaered gan fod cymylau’n bygwth glaw yn llenwi’r awyr a dilyn ffordd gerrig arw iawn (gydag olion o darmac yn dangos iddi fod yn ffordd i foduron ar un adeg) i gyfeiriad Llanfachreth gan fwynhau’r llonyddwch cyn i rhyw bymtheg o foto-beics ysgafn ruo i’n cyfarfod. Ychydig cyn cyrraedd ffermdy Cae Lleucu (a thraddodiad lleol yn cysylltu’r lle a Lleucu Llwyd a ddaeth yn adnabyddus yn sgîl un o ganeuon y Tebot Piws), gadawyd y ffordd i ddilyn llwybr amlwg drwy’r coed yn ôl i’r pentref – a chyrraedd cyn y glaw!

Diolch i Gwen, Anet, Gwyn Chwilog, Chris, Hilary, Stephen, Sioned, Dylan, Erddyn, Elen, Rosie, Eirwen, Alun, Gwyn a Paula, Keith, Tesni, Gwyn Llanrwst, John  Arthur, Eifion, Gareth Pritchard, Sw a Richard, Peter, Tegwyn, Gaenor, Iolo Roberts, Eirlys ac Iolyn am eu cwmni.

Adroddiad gan Eryl

Lluniau gan Sioned, Gwyn, Anet ag Eirwen ar FLICKR