Y Glyderau o Ben y Gwryd 22 Mai
Ar ôl mawr ddisgwyl dyma fy nhaith gynta wedi’r cyfnod clo. Gadael Porthmadog yn yr haul ond cyrraedd Pen y Gwryd yn y glaw a chroesawu criw o ddeuddeg.
Glaw, niwl a chenllysg oedd hanes hanner cynta’r daith. Ar ôl dilyn y llwybr i Ben y Pass dyma ddechra dringo go iawn a dilyn llwybr y “smotiau coch” am gopa Glyder Fawr. Llwybr ydi hwn gafodd ei greu gan Emse Kirby yn y 1960au mewn ymdrech i gadw cerddwyr rhag crwydro i bob man ar hyd y mynydd. Mae’r smotiau coch beintiodd Esme ar y creigiau i’w gweld hyd heddiw er gwaetha’r tywydd.
Erbyn cyraedd copa Glyder Fawr roedd y glaw wedi cilio. Wrth gerdded am Gastell y Gwynt mi gododd y cymylau a chafwyd golygfeydd gwefreiddiol dros y Glyderau ar i lawr Nant Ffrancon. Cafwyd ychydig o sgramblo dros gopa Glyder Fach a wedyn y bu’n rhaid tynnu’r llun arferol o’r criw ar y Gwyliwr.
Dro bach hamddenol yn ôl i lawr i Ben y Gwryd ar lwybr y mwynwyr efo’r haul erbyn hyn yn tywynnu a golygfeudd godidog o Ddyffryn Mymbyr.
Diolch i Gwyn Llanrwst, John Arthur, Sioned Llew, Buddug, Everett, Iolo, Dylan, Trystan, Sonia, Glyn a Llinos oedd ar ei thaith gynta efo’r Clwb am eu cwmni a diolch i Sioned Llew am dynnu lluniau.
Adroddiad gan Dwynwen Pennant.
Lluniau gan Sioned Llew ar FLICKR