Pedol arall Yr Wyddfa: Carnedd Ugain, Yr Wyddfa a’r Lliwedd 23 Hydref
Cyfarfu deuddeg ohonom ym Mwlch Llanberis yn mawr obeithio y bysa’r glaw yn peidio a’r cymylau’n codi oddi ar y copaon. Ofer oedd y gobeithio a glaw gafon ni yr holl ffordd i fyny’r grib. Ar dywydd teg, mae ‘na olygfeydd godidog o Gwm Glas Bach a gellir gweld trên Yr Wyddfa’n mynd am y copa o Stesion Clogwyn.
Mae Garry Smith, yn ei lyfr North Wales Scrambles yn disgrifio’r Gyrn Las fel ‘a sheep in wolf’s clothing’ ac mae hynny’n ddisgrifiad teg o’r sgrialu cymharol hawdd. Fodd bynnag, erbyn i ni gyrraedd y llethr sy’n arwain o frig y grib i gopa Carnedd Ugain roedd y gwynt yn rhuo ac erbyn i ni gyrraedd y copa, roedd hi’n anodd sefyll yn llonydd yn yr hyrddiadau gwynt ffyrnig.
Cytunwyd rhoi’r ffidil yn y to a mynd lawr Llwybr y Pyg. Syndod oedd gweld cymaint yn ymlwybro am Yr Wyddfa ond tybiaf mai sioc y byddai llawer ohonynt yn ei chael wrth gyrraedd Bwlch Glas!
Roedd hyrddiadau’r gwynt yn dal i’n poeni braidd a throi i lawr at Lwybr y Mwynwyr lle mae hi’n haws dan draed oedd y penderfyniad.
Er gwaetha’r siom o fethu â chwblhau’r daith, braf iawn oedd cael cwmni difyr Eryl, Iolo, Siân, Hilary, Chris, Owain, Trystan Bethesda a Trystan Caernarfon, Gethin, Dylan a Stephen. Gyda dyfodol llewyrchus y Clwb mewn golwg, calonogol dros ben oedd gweld mai Eryl a finna’ yn unig a oedd yn gymwys i gael y bws o Ben-y-Pass i Ynys Ettws yn rhad ac am ddim!
Adroddiad gan Richard Roberts
Lluniau gan Richard ar FLICKR