HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Gogledd y Carneddau o Abergwyngregyn 24 Gorffennaf


Criw dethol iawn o 3 ddaeth ynghyd ym maes parcio gwaelod pentref Aber ar ddiwrnod braf o haf. Roeddwn yn falch o groesawu Erddyn a Keith i gydgerdded efo fi gan mai hon yw un o fy hoff deithiau yn y cyffiniau. Buan iawn adawon ni’r prif lwybr at y rhaeadr drwy fforchio i’r chwith. Soniais wrth weddill y cwmni fy mod dal i ryfeddu at y newid yn y dirwedd wedi i’r holl goed conwydd gael eu cynaeafu – mae’r profiad o gerdded ar hyd llechweddau dwyreiniol y dyffryn mor wahanol o gymharu ag ychydig flynyddoedd yn ôl. Ymhen ychydig roeddem yn troedio’n ofalus ar hyd y marian ac yn sefyll nepell o ben uchaf y rhaeadr gan edmygu’r olygfa odidog lawr Dyffryn Rhaeadr Fawr. Roeddem ar fin profi un o lecynnau cyfrin hyfrytaf Eryri sef Cwm yr Afon Goch ac yn wir roedd Erddyn a Keith wedi gwirioni. Roedd Erddyn wedi gwirioni gymaint soniodd yr hoffai aros yno ar lan yr afon roedd y cwm mor gyfareddol ond ymlaen â ni, roedd gennym gopa neu ddwy i’w dringo. Dyma’r dringo go iawn yn cychwyn ymhen ychydig ac ar ôl dyfalbarhau roedd y tri ohonom yn sefyll ar ben Llwytmor. Dyma gyfle i Keith gael ei swyno gan y golygfeydd eang dros y môr, yr arfordir, rhan ogleddol Dyffryn Conwy ac Ynys Môn. Cawsom hoe a chinio yn y fan hyn cyn disgyn mymryn ac esgyn eto tua Foel-Fras ac wedyn copa uchaf y daith sef Carnedd Gwenllïan. Dydw i byth yn gallu cerdded y llwyfandiroedd uchel yma heb gyfeirio at y tywysogion! Yn wir wnaethon ni adrodd hanes bywyd Gwenllïan yn ogystal â’r ffordd gafodd hi, Dafydd a gweddill y teulu eu dal gan filwyr Edward 1 wrth i ni fynd dros Bera Bach, sef lleoliad y digwyddiad tyngedfennol yma. Y Drosgl oedd y copa olaf yn y mwclis i ni ddringo cyn i ni ymlwybro lawr y llethr yn llygad yr haul tanbaid at y bwlch ac wedyn lawr ymhellach wrth ochr Afon Gam. Wedi’r holl gerdded am i lawr trwy redyn trwchus roedd yn braf cyrraedd llwybr go wastad er mwyn mynd heibio gwaelod y Rhaeadr Fach ac ymlaen at y Rhaeadr Fawr. Roedd cymal ola’r daith yn ôl ar hyd Dyffryn Rhaeadr Fawr at y ceir y un arbennig o rwydd. Ymddengys bod pawb wedi mwynhau’r fawr a finnau yn ddi-os wedi mwynhau rhannu’r daith arbennig yma efo Erddyn a Keith.

Adroddiad gan Sian Shakespear.

Lluniau gan Sian a Keith ar FLICKR