Penpych a'r Rhigos 25 Medi
Ym mhen draw Cwm Rhondda Fawr heibio i Dreherbert fe wnaeth 9 ohonom ni gyfarfod ym Maes Parcio Coedwig Penpych ar gyrion Blaencwm. Fe wnaethom ein ffordd i fyny drwy'r goedwig a throi i weld rhaeadr hyfryd o'r afon Nant Berw Wion yng Nghwm Lluest. Ymlaen â ni ar ddarn mwy serth a throellog nes cyrraedd Craig Penpych, seibiant yma a phaned wrth edrych ar olygfa drawiadol i lawr Cwm Rhondda, ac ymhellach draw i Dreorci. Gweler dwy faner a chofeb yma, yn agos i'r ymyl.
Ymlaen wedyn i lawr llwybr tawel dwy'r goedwig ar y dde ond uwchben hen lofeydd y Fernhill a Blaen Rhondda. Wedi dringo pellach lawr â ni i gwm bychan at yr Afon Rhondda Fawr. Dilyn yr afon wedyn at gronfa ddwr a rhaeadr Nant Melyn sef man cychwyn yr Afon Rhondda. Cario mlaen wedyn i fyny stepiau cerrig nes cyrraedd tir mwy gwastad a dilyn y llwybr at ffordd y Rhigos. Ymhen tua 30 medr i'r chwith wedyn ar hyd llwybr llydan i'r Melinau gwynt, ac ymhellach cyrraedd ffiniau y Zip Wire sy'n rhedeg dros Llyn Mawr i lawr at ganolfan y Tŵr. Neb o'r criw am fentro ar hwn heddiw.
Fe stopion ni am ginio ar lecyn o welltglas gyda golygfa o'r Zipweirwyr a holl fynyddyddodd y Bannau i'w gweld yn y cefndir. Cwis answyddogol wedyn i ganfod enwau holl fynyddoedd y Bannau.
Ymlaen a ni wedyn gan gerdded wrh ochr y ffordd fawr yn ôl i gyfeiriad Treherbert eto, cyn troi i'r dde ar lwybr a oedd yn dod a ni i lawr ochr arall y Cwm gyferbyn a'r llwybr y buom yn ei gerdded yn y bore. Daethom heibio i ddau gylch mawr o gerrig yn fuan, rhain yn weddillion o'r oes Haearn, yn treiddio nôl i rhwng 1 a 300 mlynedd oed Crist. Roedd yr olygfa yn hollol wahanol bellach gydag olion gwasatraff glofaol yn amlwg er fod yr ardal wedi'i lefelu bellach yn barod am ddatblygiadau pellach o bosib yn y dyfodol a dim sôn am byllau Fernhill na Blaenrhondda. Roedd y llwybr at i lawr yn cynnwys llwybr cerdded cul, a thraciau mwy llydan nes cyrraedd strydoedd Blaenrhondda. Yma roedd rhandir difyr a blodau godidog yn tyfu yno.Ymhen dipyn roeddem wedi cyrraedd yn ôl ym Maes Parcio Penpych a chyfle i ddadansoddi'r amrywiaeth oedd i'w weld ar dop y Rhondda, gan obeithio dychwelyd yma pan fydd Twnel y Rhondda wedi agor – yr agoriad i'r twnel tua 300 medr i ffwrdd. Mae'r twnel caedig yn 3,148 medr o hyd ac yn arwain i Blaengwynfi ar lwybr yr hen Reilffordd o'r Rhondda i Abertawe - byw mewn gobaith.
Diolch i Dewi, Bruce, Digby, Helen, Meirion, Rhun, Eirug a John am eu hamynedd, a'u cwmni difyr ar y daith.
Adroddiad gan Emlyn Penny Jones
Lluniau gan Dewi Hugnes ar FLICKR