HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Pumlumon 26 Mehefin


Criw bychan o saith ddaeth yng nghyd ar gyfer y daith yma a bu'r sgwrsio yn hynod o gymdeithasol.
Judith Morris, Peter Williams, Sian Shakespere, Rhiannon a Clive James, Eirlys a minnau.

Judith a Peter yn byw yn lleol a’r gweddill wedi aros yn y cyffiniau ar y nos Wener er mwyn cael dod i ardal sydd yn weddol anghyffredin i deithiau’r clwb. Tywydd yn y bore ddim yn ddelfrydol ond yn sych ac yn hawdd dilyn y disgrifiad sydd yn y llyfr Copaon. Y golygfeydd ychydig yn  niwlog pan oeddem ar y copaon. Erbyn y prynhawn a ninnau i lawr yn y dyffryn yr awyr yn glir yr haul yn boeth yn codi awydd i ddod yn ôl i’r ardal er mwyn cael golygfa o ardal helaeth o Gymru. Rhaid sôn am yr holl flodau gwyllt yn arbennig y briwydd wen yn britho’r ffriddoedd. Er bod y ddau ddiwrnod cynt wedi bod yn wlyb doedd dim anhawster i groesi’r gors at yr afon Hengwm a cherdded drwyddi heb wlychu traed. Y rhan waethaf o’r daith oedd o’r afon at y llwybr ar yr ochor ogleddol, hwn ddim yn hir ond yn llafurus iawn. Gan ein bod wedi dewis gadael y ceir ger yr argae ‘r oedd dipyn o bellter at y man cychwyn am y copa  a hefyd y daith yn ôl ar ôl croesi’r Hengwm yn hir. Gellid fod wedi gadael y ceir ger Maesnant i wneud taith fyrrach ond byddai hynny yn lleihau'r teimlad o ehangder yr ardal. Cymerodd y daith 7.5 awr, bosib fod y sgwrsio wedi cael rhywfaint o ddylanwad ond hyd yn oed ar ôl ychwanegu amser seibiant mae’r amser o 4.5 awr sydd yn y llyfr yn dipyn llai, bosib fod hyn yn golygu parcio ger Maesnant.

Wrth yr argae mae’r gofeb yma

Y peth sydd yn rhyfedd i mi yw mai dyma’r geiriad:
To commemorate Owain Glyndwr’s victory at Hyddgen 1401
I gofio’r sawl a ddisgynnodd yn frwydr
(Gol: Fandaleiddiwyd y plac llechen gwreiddiol, a ddadorchuddiwyd gan Gwynfor Evans yn 1977, gan estroniaid.
Gosodais lun o'r gwreiddiol ar y dudalen luniau FLICKR)

Diolch i bawb oedd yn y cwmni, wedi mwynhau y sgwrsio yn fawr iawn.

Adroddiad gan Iolyn

Lluniau gan Eirlys ar FLICKR