HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Moelydd yr Wyddfa 26 Mehefin


Pan ddeffrais fore Sadwrn a  gweld yr haul yn tywynnu roeddwn yn hynod o falch oherwydd y tro diwethaf i mi fwriadu arwain y daith yma bu raid troi’n ôl oherwydd tywydd garw a dilyn llwybrau is yn ardal Llanberis Ymunodd chwech aelod gyda mi yn Llanberis sef Eirwen, Eluned, Eifion, Gwyn (Llanrwst), John Arthur a Tegwen.

Wedi cychwyn o’r pentref  roedd tipyn o waith dringo i gyrraedd copa Moel Eilio ar uchder o 726 m, copa uchaf y diwrnod, ac wedi ei gyrraedd roedd yn braf meddwl ein bod wedi gwneud y dringo anoddaf a bod tro braf o’n blaenau ar hyd gweddill y moelydd. Cafwyd paned ar gopa Moel Eilio yn cysgodi rhag y gwynt cyn mynd yn ein blaenau wedyn dros Foel Gron a Goch. Penderfynwyd cael cinio yn y bwlch cyn dringo’r copa olaf sef Moel Cynghorion. Gan fod Cymru’n chwarae gêm bêl droed bwysig yn ddiweddarach yn y prynhawn, cytunwyd y byddai’n gynt dychwelyd yr un ffordd o gopa Moel Cynghorion i fwlch Maesgwm a gwneud ein ffordd yn ôl i Lanberis ac  felly y bu hi.

Cawsom dro hamddenol yn yr haul i lawr Maesgwm ar hyd y ffordd sydd wedi ei hadnewyddu yn ddiweddar gan y Parc Cenedlaethol. Cyrhaeddwyd yn ôl i Lanberis erbyn tua phedwar, oedd yn rhoi digon o amser (gobeithio) i bawb gyrraedd adref mewn da bryd ar gyfer y gêm bêl droed.

Adroddiad gan Iolo Roberts

Llun gan Iolo ar FLICKR