HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Gwauncwmbrwynog 28 Mai


Ar yr 28ain o Fai cafwyd taith arbennig i Wauncwmbrwynog, gyda nifer o aelodau'r clwb yn bresennol. Mae'n hanes diddorol am ardal fynyddig a sut fywyd oedd i gael yno ar un adeg. Cyhoeddwyd yr erthygl wreiddiol yn Eco'r Wyddfa, a diolch i'r Eco am ganiatad i'w rhannu ymhellach yma ar wefan Clwb Mynydda Cymru. Diolch i Alun Roberts am drefnu ac i Arwyn am y lluniau.

Awdur yr erthygl yw Nesta Elliott

Lluniau gan Arwyn Jones ar FLICKR

Erthygl Gwauncwmbrwynog (o Eco'r Wyddfa)

Cynhaliwyd cyfarfod  yng Nghanolfan Llanberis fore Gwener 28ain o Fai i goffau cysylltiad hanesyddol Gwilym Charles Williams, (un o feibion Llanberis ond sy’n byw yn Llandudno bellach) efo Capel Hebron Gwauncwmbrwynog.

Meddiannwyd y Cwm yn ystod yr ail Ryfel Byd a chyfansoddwyd y gerdd Gwaun Cwm Brwynog gan y Parchedig Brifardd R. Bryn Williams yn 1943 yn dilyn bedydd Gwilym Charles Williams o Lwyn Celyn ar 19 Hydref 1942. Mae’r bardd, a oedd yn heddychwr mawr, yn siarad â’r baban i fynegi ei ddiflastod am yr hyn oedd yn digwydd yn y Cwm. Adeiladwyd ‘Rifle Range’ union 50 llath o ddrws y Capel. Gwilym Charles Williams oedd y ‘baban gwyn’ y cyfeirir ato yn y drydedd linell o bennill olaf y gerdd.

Gwauncwmbrwynog
Daeth deugain addolwr i’r capel llwm,
Rhai o’r gwastadedd a rhai o’r cwm;
Ac wrth dy fedyddio, faban gwyn,
Cofiais am wynfyd y llethrau hyn:
Tyddynnod bach a theios llawn,
A’r cymun Cymraeg wrth dân o fawn,
A gwerin dlawd yn byw’n gyfoethog
Yng Ngwauncwmbrwynog….

R. BRYN WILLIAMS 1943

Mynychodd un o gyfoedion Gwilym, a fu hefyd yn gyn-ddisgybl Ysgol Dolbadarn, y cyfarfod, sef Arwel Jones (Hogia`r Wyddfa) a gyfansoddodd y gerddoriaeth i’r gerdd  ‘Gwauncwmbrwynog’, un o ganeuon poblogaidd Hogiau’r Wyddfa. Roedd y Parch Jim Clarke, Robat Williams, Gwyndaf a Mair Huws, Maldwyn Peris Roberts, Meirion Jones, Glyn Tomos, Arwyn Jones, Alun Roberts a Tony Elliott hefyd yn y cyfarfod (er nad aeth pawb ar y daith i Wauncwmbrwynog). Cafwyd cyflwyniadau difyr yn y cyfarfod gan Alun Roberts, Gwilym Charles Williams, Ken Jones ac Arwel Jones.

Yn dilyn y cyfarfod, arweiniodd Ken Jones, Ysgrifennydd Y Ganolfan, daith i fyny i Wauncwmbrwynog gan alw heibio nifer o safleoedd o ddiddordeb yn y pentref. Mae Ken yn hanesydd lleol o fri ac wedi gwneud gwaith arbennig yn y Ganolfan. Cafwyd cyfle i’r rhai oedd yn bresennol, i weld y murlun a osodwyd yn ddiweddar yn y Neuadd i gofio am T.Rowland Hughes (gwelwyd llun o’r murlun hwn a’i hanes yn rhifyn diwethaf Yr Eco).

Ar ôl gadael Ysgol Dolbadarn bu Gwilym yn amaethu yn Llwyn Celyn, cyn cael swydd fel trefnydd yr Urdd dros Sir Fôn a Sir Gaernarfon. Fo oedd trefnydd cyntaf yr Urdd yn Sir Gaernarfon, cyn dod yn swyddog gweinyddol efo’r Urdd yn Aberystwyth. Yn ddiweddarach penodwyd ef yn Swyddog y Gogledd efo’r Deillion.

Mab i Henry Charles Williams, ysgrifennydd Capel Hebron, yw Gwilym. Mynychodd Henry Charles y capel o’r crud ac fe’i bedyddiwyd yno. Cychwynnodd wasanaethu yn y capel yn y flwyddyn 1917 fel organydd ac fe’i hetholwyd yn flaenor yn y flwyddyn 1938. Cyfrannodd Henry Charles at yr achos yn Hebron am 54 o flynyddoedd ac ef oedd yr ysgrifennydd yn 1958 pan gaewyd drysau’r capel am y tro olaf. Dyma oedd yr hoelen olaf yn oes y capel a gadawodd y teulu diwethaf o’r Waun yn y flwyddyn 1959. Daeth Gwilym â llun o’i dad yn dal Beibl Capel Hebron efo fo i’r cyfarfod. Yn ogystal â’r gerdd a ddyfynnir ar ddechrau’r erthygl, cyfansoddodd R Bryn Williams gerdd ar gyfer gwasanaeth cau'r Capel, er nad oedd yn medru bod yn bresennol yn y cwrdd olaf. Caewyd y Capel ar nos Lun 7fed Gorffennaf 1958, gyda’r gwasanaeth cau o dan ofal y Parchedig J P Davies. Cynhaliwyd y gwasanaeth y tu allan i’r capel gan fod y Capel wedi ei gloi a doedd neb yn gwybod ymhle roedd yr allwedd ar y pryd.

Capel mwyaf anghysbell dyffryn Peris oedd Hebron, a leolwyd ar un o lethrau Gwauncwmbrwynog, yng nghysgod copa’r Wyddfa.

Dyma gyflwyniad William Hobley am hanes Capel Hebron yn ei lyfr ‘Hanes Methodistiaid Arfon’ 1901:
''Fe saif capel Hebron ar un o lethrau ysgithrog yr Wyddfa, mewn lle neilltuedig, sef Wauncwmbrwynog, mewn amgylchoedd  rhamantus. Llecha Hebron dan adenydd y mynyddoedd. Delid yr oll o Gwmbrwynog ar un adeg gan yr un gŵr, ond y mae ers llawer blwyddyn bellach wedi ei rannu yn wahanol ffermydd a thyddynnod.

Lleolwyd y capel ar uchder o 900 o droedfeddi uwch y môr mewn man eithaf  hwylus  i holl drigolion y cwm gyda llwybrau yn arwain o bob fferm a thyddyn i ddrws y capel. Y brif broblem gyda’r lleoliad oedd iddo fod mewn man agored ac yn ddannedd gwyntoedd y gorllewin a oedd yn rhuo i fynnu’r cwm o for yr Iwerydd - ar adegau. Y capel oedd yr unig gyrchfan yn y cwm ymhle roedd modd i’r  holl drigolion gyfarfod a’i gilydd o dan yr un to.”

Diolch yn fawr i bawb am eu cymorth wrth ysgrifennu’r erthygl, ac i gydnabod y cymorth a gafwyd o fewn cyfrol ‘Hanes Methodistiaid Arfon 1901’ gan William Hobley.