Moel Siabod a Bwlch Maen Pig o Ddolwyddelan 28 Tachwedd
Efo pawb wedi gorfod gosod eu clociau larwm awr yng nghynt dyma gyfarfod yn Nolwyddelen, pawb yn falch nad taith dydd Sadwrn oedd hon gan for storm Arwen wedi tawelu dros nos. Gan fod y criw wedi dod o wahanol gyfeiriadau a’r rhan fwya wedi dod drwy gawodydd eirlaw roedd hi’n argoeli’n dda am ddiwrnod o fynydda gaeaf.
Cychwyn hamddenol drwy’r coed a chael paned a cacen (a llymaid fach o gwrw) i ddathlu penblwydd Iolo cyn dringo fynu i Llyn y Foel. Er fod ychydig o eira dan draed dyma fynd ymlaen am y Daear Ddu ond sylwi yn weddol fuan for haen o rew o dan yr eira. Penderfynwyd yn sgil hyn i droi yn ôl a dringo i gopa Moel Siabod gan gadw i’r gorllewin o’r grib.
Gwynt oer ac eira gafwyd ar y copa a rhan fwya yn eitha cenfigenus o’r un oedd wedi meddwl dod a gogyls. Ymlaen wedyn i ddannedd y gwynt a disgyn lawr ochr orllewinol Moel Siabod a cael cinio yng nhysgod Clogwyn Bwlch y Maen. Ymlaen dros Garnedd y Cribau a heibio y Maen Pig lle cawfyd yr anochel lun o’r criw. Cafwyd cip ar ddawn dringo Chris wrth iddo gyraedd copa Maen Pig mewn chwinciad. Disgyn lawr i Fwlych y Rhediad cyn troi yn ôl i Ddolwyddelen ac heibio’r castell i’r ceir.
Diolch i David Levi, Iolo, Sioned, Elen, Eirwen, Stephen, Chris a Hilary, Alun Caergybi, Dylan, Trystan a Gerallt am eu cwmni.
Adroddiad gan Dwynwen
Lluniau gan Sioned a Gerallt ar FLICKR