Tal y Fan o Benmaenmawr 30 Hydref
Braf oedd cael croeso deunaw o gyd aelodau ar fore heulog braf i Benmaenmawr.
Dechrau’r daith hefo dringfa serth at gylch cerrig y Meini Hirion, cylch cerrig trawiadol o drideg o feini mawrion mae’n debyg wedi eu hadeiladu yn yr oes Neolothic.
Ymlaen a ni i gopa Moelfre cyn cerdded ar draws y llwyfandir i’r bwlch rhwng Foel Ddu a Thal y Fan am baned. Y gwynt yn cryfhau ar y copa felly dim amser i dindroi. Cerdded ar hyd y grib a heibio’r hen chwarel a’r maen Pen Ddu at Faen Amor, talp o graig fawr sydd yn edrych fel ei bod wedi ei hollti ar un amser.
Croesi’r afon Gyrach oedd mewn lli, ar bont bren fechan, cyn dringo i gopa Foel Lûs am y baned ola cyn dychwelyd at y ceir ym Mhenmaenmawr.
Diolch i Richard, Anet, Gwyn ,Gwen, Raymond, Buddug, Sioned ,Gaynor, Iolyn , Eirlys, Dafydd, Will, Gwyn Llanrwst, John Arthur, Eifion , Dylan, Paula a Gwyn am eu cwmni difyr.
Adroddiad gan Arwel Roberts
Lluniau gan Arwel, Anet a Sioned ar FLICKR