Cwrs Cymorth Cyntaf Mehefin 2021
Manteisiodd wyth aelod ar y cyfle i gwblhau cwrs cymorth cyntaf REC (Rescue and Emergency Care) a oedd wedi ei drefnu misoedd yn ol ond wedi ei ohirio oherwydd y Covid. Cwrs dauddydd oedd hwn a’i gynhaliwydd yn Neuadd Pentref Capel Garmon.
Y darparwyr oedd Marianne a Jason, perchnegion cwmni Tirio, o Nebo. Erbyn diwedd y cwrs roeddem yn gyfarwydd gyda’r ffordd o ymdrin a’r brif ddamweinaiu ac afiechydon a all daro mynyddwyr ac wedi cael golwg ar yr offer syml a ellid ei ddefnyddio I roi cymorth cyntaf i gleifion yn yr awyr agored
Roedd yr holl aelodau a fynychodd yn llwyddianus - Anne, Arwel, Dewi, Llinos, Elin, Emyr, Gareth a Raymond.
Diolch I’r Bartneriaeth Awyr Agored am roi cymorthdal ac i’r Clwb Mynydda am dalu hanner ein treuliau.
Adroddiad gan Raymond Griffiths.
Lluniau gan Anne Lloyd Cooper ar FLICKR