Cylch Clywedog, Cwm Dugoed ger Mallwyd 2 Hydref
Mentrodd Erddyn, Iolo, Gareth, Elen, Iolyn a Raymond i'r gwyllt yn mhellafoedd Mawddwy.
Dilyn llwybr yr hen glawdd mynydd hyd at fin tir, cyn cael cipolwg ar olion carneddau a rhes gerrig o'r oes efydd, ac ymlaen i'r copa cyntaf - Cerrig Duon.Yr oedd yr ail gopa - Llechwedd Llwyd yn ymyl â golygfeydd eang. Roedd yr Aran yn cuddio mynyddoedd Eryri, ond i'r dwyrain gallem weld tri phig y Breiddin, Corndon ac i lawr am Sir Frycheiniog, yna mynyddoedd y canolbarth a draw am Bumlumon. Nid oedd yn ddigon clir i weld Sir Benfro, ond cawsom olwg wahanol ar Grib Maesglasu, Y Gadair a Glascwm.
Wedi paned sydyn bu rhaid brwydro ar hyd copaon grugog Cefnbrith Isaf ac Uchaf, roedd y criw yn mynnu aros i bori ar y Llus, a phrofodd rhai y Llygaid Eirin a'r Llus Coch. Roedd y ffordd goedwigaeth i ben Tir Rhywiog dipyn haws a'r goedwig yn drwch o Fadarch Coch. Y copa nesaf oedd Carreg y Big Dolymaen, yn ei ymyl yn y gors roedd olion CNC yn ceisio gwlychu cors oedd mor wlyb fel suddodd y peiriant ganddynt. Slogio wedyn drwy grug Drum Ddu i flaen Cwm Clywedog cyn troi lawr am y Carneddi Gwragedd trawiadol; yno claddwyd tair gwraig mewn lluwch eira tua 700 mlynedd yn ôl. Paned arall uwch dyffryn Mawddwy gan ddilyn y grib, cyn disgyn yn serth i Fwlch Safn Ast a dilyn y llwybr hefo glannau afon Clywedog yn ôl i Gelliddolen.
Diolch i bawb am eu cwmni.
Adroddiad gan Tegwyn.
Lluniau gan Elen Huws a Iolo Roberts ar FLICKR