Yr Wyddfa 3 Ionawr
Roedd wedi bod yn bleser arwain taith olaf y clwb yn 2021 gyda'r tywydd mor anhygoel a heb ddisgwyl mi gefais gyfle funud olaf i gyd arwain ein taith gyntaf 2022. Diolch mawr i Chris Humphreys am helpu ar fyr rhybydd.
Criw da wedi troi allan yn awyddus i losgi'r twrci ar ôl bod yn y tŷ lawer mwy nag arfer y Dolig hwn! Wedi cael dim ond gwynt a glaw dros wyliau'r Nadolig a hyny wedi cadw'r mwyafrif oddiar y mynydd. Felly roedd pawb yn edrych ymlaen i'r daith hon er diffyg yr eira sy'n arferol ar gopa uchaf Cymru yr amser yma o'r flwyddyn. Rhagolygon am ddiwrnod sych ar y cyfan.
18 ohonom yn cyfarfod ym Mhen y Pass ar fore sych a chynnes. Fi a Chris yn arwain, Sandra, Arianell, Eirwen, Dafydd Thomas, Owain, Matthew, Dafydd Legal, Dylan Edwards, Trystan, Eifion Jones, Iolyn, Dwynwen, Gerallt, Elen, Manon a Morfudd yn ymuno gyda ni ym Mwlch Glas. Roedd Eifion a Dylan allan am y tro cyntaf ers beth amser a Matthew ar ei daith gyntaf gyda'r Clwb.
Roedd yn braf cael y mynydd yn weddol dawel a pawb yn symud yn dda i fyny llwybr y Pyg hyd at Bwlch Glas er mwyn dal i fyny gyda Gerallt a Iolyn, a oedd wedi cychwyn yn gynt.
Fe wnaethom ddathlu penblwydd arbenig Eirwen yn nghysgod Bwlch Glas - diolch i Dwynwen am rhannu teisen gyda pawb.
Gwyntoedd cryf a niwl o Fwlch Glas i'r copa ond yn braf cyraedd a gweld neb yn sefyll mewn ciw heddiw!
Dilynom lwybr y Mwynwyr i Glaslyn a mwynhau paned tra oedd Gerallt yn paratoi'r tripod ar gyfer y llun olaf.
Pawb yn ol ym Mhen y Pass erbyn 3.30 ac amryw ohonom yn cerdded ymlaen yn ôl i'r ceir ym Mhen y Gwryd.
Braf bod allan eto ac yn croesi bysedd am eira erbyn y daith nesaf mewn pythefnos.
Adroddiad gan Stephen Williams.
Llun gan Gerallt Pennant ar FLICKR