HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Llynnoedd Teifi - Taith y 'Steddfod 3 Awst



Taith Eisteddfod Ceredigion o'r diwedd! Dyma 44 ohonom yn cwrdd yn Ystrad Fflur ar fore Mercher yr Ŵyl, wedi cryn dipyn o groesi bysedd am y tywydd. Bwrw i fyny'r lôn yng nghwm Mwyro cyn troi i fyny llwybr y llynnoedd Nant Egnant yng nghwmni'r Barcud a'r Boda. Wedi i ni gael hoe fach wrth garreg goffa Moc Morgan ger Llyn Egnant, cawsom ginio a thynnu llun y grŵp swmpus o gerddwyr. Aelodau ffyddlon, gwestai lleol ac eisteddfodwyr, a digon o gloncian. A yw'r Garreg Nawllyn yn bodoli, neu'n chwedlonol?

Bwrw ymlaen rhwng llyn Hir, Teifi, Llyn Bach a Gorlan, cyn troedio hen lonydd y porthmyn i lawr heibio Cae Madog yn yr hindda. Cyfle gwych i'r rhai nad oedd wedi bod ym mharadwys Ystrad Fflur a llynnoedd Teifi oedd hon, ag yn amlwg, roedd y daith wedi plesio!

Cwmni da, a diwrnod i'w gofio. Diolch i Eryl am ei gymorth yn bugeilio'r praidd.

Adroddiad gan Dafydd Pugh Jones

Lluniau gan Dafydd Pugh Jones ar FLICKR