HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Diffwys 3 Medi



Er i’r rhan fwyaf o’r un-ar-ddeg ddaeth ar y daith deithio drwy gawodydd trymion, roedd yn sych erbyn iddynt gyrraedd maes parcio Farchynys ar gyrion Bont-ddu ac, er yn gymylog, ni fu’n rhaid gwisgo cotiau glaw o gwbl. Rhan gyntaf y daith oedd llwybr drwy’r coed i gyrraedd ceunant afon Hirgwm ac yna dilyn ffordd drol heibio olion melin y gweithfeydd aur ac yna gwaith aur Clogau St David’s, lle mae peth archwilio gobeithiol yn digwydd yn achlysurol o hyd. Mae un rhan o’r ceunant mor serth nes cael ei enwi’n Uffern y Geifr – neu uffarn gifyr ar lafar.

Wedi cyrraedd pont Tinglan (ar ôl ffermdy Tŷ Glan Afon gerllaw), cerddwyd ar hyd caeau a fyny ffriddoedd at ffarm Hendre-forion cyn troi am Gwm-llechen ar hyd llwybr da a llydan yn arwain at hen weithfeydd manganese. Mae’n gwm tawel ac unig ond wedi rhyw ddwy gilometr a hanner o gerdded braf a graddol, rhaid oedd troi am lethrau serth Craig yr Aderyn ac ymlaen, yn serthach fyth, i gopa Diffwys – a chinio haeddiannol.

Wedi llenwi’n boliau, lawr â ni ar hyd y grib laswelltog tuag at Llawllech gan droi wedi dwy gilometr i ddilyn cefnen hir Braich i gyrraedd y ffordd dar ym Manc-y-frân ym mhen uchaf Cwm Hirgwm. Ychydig cyn hynny, tynnwyd llun o rai o’r criw ger hen garreg filltir, sy’n nodi’r pellter i Dal-y-bont ar un ochr a Harlech yr ochr arall, i’n hatgoffa y byddai’r Goets Fawr yn teithio heibio am Fwlch y Rhiwgyr a’r arfordir.

Troi i’r dde yno ar hyd ffordd drol am Fwlch Coch am rhyw 200 metr, cyn troi i lwybr drwy’r coed pinwydd a ddaeth â ni i’r ffriddoedd uwchben hen blasty ac eglwys Caerdeon. Adeiladwyd yr eglwys yn 1862 ar ffurf eglwys fynyddig Eidalaidd gan y Parchedig W.E. Jelf, offeiriad cyfoethog a pherchennog y plasty, a oedd yn cynnig cyrsiau preswyl i ddynion ifainc i’w paratoi ar gyfer prifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt. Achosodd ei fwriad i gynnal gwasanaethau yn Saesneg yn unig gryn gynnwrf, gyda ficer y plwyf (Llanaber) yn daer yn erbyn gan ddadlau bod angen gwasanaethau Cymraeg er mwyn cystadlu â’r capeli. Bryd hynny, nid oedd yr un eglwys rhwng Llanelltud a’r Bermo.

Diweddwyd y daith gyda golygfeydd gwych o aber y Fawddach o’r llwybr ar hyd llechweddau Geuos yn ôl i’r maes parcio.

Diolch i Dafydd Legal, Wil Thomas, Alison Maddocks, Tegwyn, Eirlys ac Iolyn, Peter, Richard, Dafydd Pugh Jones a Raymond am eu cwmni.

Adroddiad gan Eryl Owain

Lluniau gan Richard, Alison, Eirlys ac Eryl ar FLICKR