HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Moel Ysgyfarnogod a Foel Penolau 3 Rhagfyr



Dechrau’r daith gyda 13 a diweddu gydag 14 gan fod Tîm Achub De Meirionnydd wedi bod yn ddigon meddylgar i ddanfon Myfyr Tomos i’n cyfarfod ar gopa Moel Ysgyfarnogod i wneud yn siŵr ein bod yn iawn! Braf cael ei gwmni yn ôl lawr a manteisio ar ei wybodaeth leol i osgoi ambell lecyn gwlyb.

Cyrhaeddodd y tri-ar-ddeg y man parcio’n brydlon – Nia Meacher, dau Gwyn Roberts ond un Paula, John Arthur ac Eifion, Dwynwen, Peter, Richard Roberts a Gwen Chwilog, Gareth Wyn a minnau – a braf oedd croesawu Nansi o Gricieth ar ei thaith gyntaf gyda’r clwb. Wedi cerdded tua dwy cilometr ar hyd y ffordd dar tuag at ffermdy unig Cefn-clawdd, aed ar hyd y llwybr i lawr at afon Crawcwellt a’i dilyn heibio ffermdai gwag Wern Fach a Wern Gyfrwy. Er ei bod yn wlyb dan draed, gallai wedi bod yn waeth; roeddem yn lwcus  o gerdded ar ddiwedd wythnos sych.

Dringo’r raddol wedyn i Fwlch Gwilym ymhen dwyawr ac esgyniad byr ond serth i’r ysgwydd tan gopa Clip. Manteisiodd neb ar y cyfle i gynnwys y copa hwnnw hefyd felly ymlaen â ni tros Graig Ddrwg a mân sgrialu ym acw a heibio llyn Corn-ystwc a chanfod man cysgodol i gael cinio cyn cyrraedd Llyn Du. Ymhen dwyawr arall, roeddem ar gopa Moel Ysgyfarnogod (623 m), man uchaf y daith.

Er bod peth awyr las ac haul ar brydiau, roedd y gwynt yn oer felly ymlaen at Foel Penolau – copa mwyaf trawiadol y daith, yn arbennig wrth ddynesu tuag ato o’n cyfeiriad ni; ymddengys bob mur o graig talsyth yn gwarchod y copo ond mae bylchau i hwyluso pethau i gerddwyr meidrol. Dau gopa pellach – Diffwys ac yna Moel y Gyrafolen (yn ôl y mapiau), Moel Griafolen efallai ond Moel Gron ar lafar gwlad yn lleol.

Llwybr annelwig iawn sydd i lawr oddi yno ond diolch i brofiad Dwynwen a Myfyr, daethpwyd o hyd iddo a’i gael yn un hwylus a chlyfar, yn igam-ogamu i lawr yn serth drwy’r grug. Llwybr da wedyn yn ôl i ffordd ger Ty’n Twll, ar lannau llyn Traws, cyn cael ein tywys o amgylch canolfan y tîm achub yn hen gapel Cae Adda (wel, ddim mor hen â hynny, gan iddo gael ei adeiladu yn y 1920au oherwydd safle’r capel gwreiddiol sydd bellach dan ddŵr y llyn); diddorol a rhyfeddol oedd gweld yr offer soffistigedig yno. Rhyw ddwy gilomedr arall ar hyd y ffordd o Dy’n Twll ac roeddem yn ôl yn sych a bodlon wedi diwrnod o fynydda gwerth chweil.

Adroddiad gan Eryl Owain

Lluniau gan Myfyr ag Eryl ar FLICKR