HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Y Garn i Foel Hebog 4 Mehefin


Roeddwn yn falch o weld  wrth deithio i Feddgelert yn y bore fod y tywydd yn edrych yn addawol ar gyfer y daith gan fy mod eisoes wedi ei gohirio ddwy waith, y tro cyntaf oherwydd rhagolygon o fellt a thrannau a’r eildro oherwydd glaw trwm.

Daliodd 13 ohonom y bws o Feddgelert  i Ryd-ddu  gyda’r bwriad o gerdded yn ôl dros ran o Grib Nantlle a Moel Hebog a’i  chymdogion. I ffwrdd a ni am y  ddringfa serth i gopa’r Garn cyn mentro yn ein blaenau dros Fynydd Drws y Coed am Drum y Ddysgl. Cyfle i Iolyn ar y ffordd dynnu llun ar y copaon fel rhan o’i ymdrech epig i ddringo 100 Copa Cymru fel rhan o’i ddathliad penblwydd arbennig eleni.

Ffarweliwyd â’r grib wedyn a disgyn (a cholli uchder) wrth ddod lawr y fraich o Drum y Ddysgl i Fwlch y Ddwy Elor. Roedd y gwynt wedi codi erbyn hyn a manteisiwyd ar y cyfle i gael ein cinio yn cysgodi yn y bwlch.

Wedi colli cryn uchder wrth ddod i lawr o Drum y Ddysgl roedd yn rhaid wynebu dringo’n ôl wrth anelu am gopa Moel Lefn. Gadawodd Eirlys a Iolyn ni ym Mwlch Cwm Trwsgl a dychwelyd i Feddgelert ar hyd y llwybrau drwy’r goedwig. Aeth y gweddill ohonom yn ein blaenau gyda’r gwynt yn cryfhau ac ambell gawod ar y ffordd nes cyrraedd y copa. Cawsom seibiant yno ac am ei bod yn wyntog roedd y cymylau yn symud yn sydyn ac felly roeddem yn cael cyfle i fwynhau’r  golygfeydd.

Yn ein blaenau wedyn am gopa Moel yr Ogof ac wrth ddod i lawr am Fwlch Meillionen, bachwyd ar y cyfle i wyro oddi ar y llwybr am ychydig er mwyn i Keith allu dangos i ni leoliad yr ogof lle y cysgododd Owain Glyndwr oddi wrth y Saeson. Toedd yr amser na’r tywydd yn caniatau i ni ymweld â’r ogof ond roedd yn gyfle i ni feddwl pe byddai ymdrechion Owain Glyndwr wedi bod yn llwyddiannus tebyg yw y byddai hanes Cymru wedi bod yn dra gwahanol ac efallai na fyddem wedi gorfod goddef yr holl firi a ffwdan oddi tanom yn Lloegr a rhannau o Gymru dros y penwythnos.

O Fwlch Meillionen roedd yn rhaid wynebu’r ddringfa serth olaf i gopa Moel Hebog lle y cyfarfuom â thair geneth leol oedd wedi cyrraedd y copa o Feddgelert. Da oedd gweld cyd-Gymry Cymraeg ar y mynyddoedd ac fe welwyd nifer o rai eraill hefyd yn ystod y diwrnod.

I lawr wedyn i Feddgelert i gwblhau’r daith. Tipyn o fyny ac i lawr yn ystod y dydd ond yn ffordd dda i osgoi holl firi’r diwrnod hwnnw a’r tro cyntaf i David a Gethin fod fyny Moel Hebog. Y tywydd ddim cyn gystal ag y gobeithiwyd, ac fe ddeallais wedyn fod rhai o aelodau’r Clwb fentrodd i Swydd Efrog i ddringo’r Tri Copa ac eraill yn mynydda yn yr Alban wedi cael tywydd llawer gwell ar eu teithiau. Ond fel yna mae hi, toes yna ddim y gallwn ei wneud am y tywydd!!

Llawer o ddiolch i Anne, Andras, Gethin, David, Eryl, Gethin, Hefin a Morfudd, Nia, Dylan, Eirlys ac Iolyn am eu cwmni difyr yn ystod y dydd.

Adroddiad gan Iolo Roberts

Lluniau gan Iolo, Eirlys a Iolyn. David a Keith ar FLICKR